Galw am gofeb i'r ysgrifennydd gwladol, Jim Griffiths

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Theo Davies-Lewis sy'n esbonio wrth Iwan Griffiths pam fod cofeb i Jim Griffiths yn bwysig

Mae ymgyrch i gael cofeb barhaol yn Llanelli i gofio am ysgrifennydd gwladol cyntaf Cymru wedi ei ddechrau gan fyfyriwr.

Mae Theo Davies-Lewis yn galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin a chyngor tref Llanelli i gydnabod "cyfraniad enfawr" James 'Jim' Griffiths i Gymru.

Roedd Jim Griffiths yn AS Llafur dros Lanelli rhwng 1936-1970, ac fe oedd ysgrifennydd gwladol cyntaf Cymru rhwng 1964-1966.

Dywedodd Mr Davies-Lewis, sy'n astudio yn Rhydychen, ei bod hi'n "warthus nad ydyn ni wedi cydnabod Jim ar y fath raddfa a ffigyrau eraill amlwg fel Aneurin Bevan".

Disgrifiad o’r llun,

Jim Griffiths oedd ysgrifennydd gwladol cyntaf Cymru rhwng 1964-1966

Roedd Mr Griffiths yn ffigwr amlwg yn symudiad yr undebau Llafur, ac roedd hefyd yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn ystod ei yrfa.

Mae'n cael ei gofio fwyaf am sefydlu Swyddfa Cymru yn Whitehall, cyn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan y prif weinidog ar y pryd, Harold Wilson.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jim Griffiths yn haeddu cael ei gydnabod yn debyg i ffigyrau fel Aneurin Bevan (uchod), yn ôl Theo Davies-Lewis

Ychwanegodd Mr Davies-Lewis: "Does dim amheuaeth fod Jim wedi cyfrannu'n helaeth i wella hawliau gweithwyr ar draws Cymru dros sawl degawd.

"Am ei fod yn ymgyrchu'n wleidyddol yr un adeg ag Aneurin Bevan, dydy Jim heb fod ar flaen meddwl pobl wrth edrych ar Gymru yn yr 20fed ganrif."

"Adeiladu cerflun, fyddai'n symbol corfforol o Jim a'i nerth, yw'r peth lleiaf allwn ni ei wneud i gofio am y cawr yma o hanes modern Cymru."

Mae Mr Davies-Lewis bellach wedi ysgrifennu at AC ac AS presennol Llanelli, Lee Waters AC a Nia Griffith AS, ac arweinwyr y cynghorau i ofyn am gefnogaeth.