Ymddiheuro am gamgymeriad etholiad arweinydd UKIP
- Cyhoeddwyd
Mae trefnydd yr etholiad ar gyfer arweinydd UKIP yn y Cynulliad wedi ymddiheuro ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod tua 300 yn ychwanegol o aelodau na'r disgwyl wedi cael pleidlais.
Roedd Caroline Jones, Neil Hamilton a Gareth Bennett wedi cael gwybod mai ond aelodau oedd wedi bod yn y blaid ers o leiaf chwe mis fyddai'n cael pleidlais.
Ond bellach mae aelodau'r blaid ers 28 diwrnod yn cael pleidleisio.
Dywedodd y swyddog etholiad, Piers Wauchope, bod y mater wedi achosi embaras.
300 ychwanegol
Fe wnaeth BBC Cymru siarad gyda Mr Wauchope yn dilyn pryderon gan rai bod aelodau newydd UKIP yn derbyn papurau pleidleisio.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod y nifer sy'n cael pleidleisio wedi cynyddu o 300 i ychydig yn llai na 900 aelod.
Roedd rhai o gefnogwyr Caroline Jones yn poeni y gallai'r papurau pleidleisio ychwanegol roi mantais i Neil Hamilton.
Ond dywedodd Mr Wauchope nad oedd yn gweld "unrhyw ffordd y gallai roi mantais i un person neu'r llall".
Dywedodd Mr Wauchope bod gwahaniaeth rhwng cyfansoddiad y blaid a'r llyfr rheolau y tu ôl i'r dryswch, gyda'r cyfansoddiad yn rhoi'r hawl i aelodau ers 28 niwrnod gael pleidlais.
Yn ôl ffynhonnell sy'n agos i Mr Bennett, nid yw'n poeni am y newid ac mae'n "gwbl gyfforddus gydag aelodau'n cael lleisio eu barn".
Mae Mr Hamilton wedi cael cais am sylw.
Mae'r bleidlais eisoes wedi ei hoedi oherwydd problem gydag argraffu'r papurau pleidlais.
Cafodd y bleidlais ei galw ar ôl i ddau Aelod Cynulliad gefnogi ymgais Ms Jones i ddisodli Mr Hamilton.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018