Davies yn lansio'i ymgyrch i arwain y Ceidwadwyr Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies

Mae Paul Davies AC wedi addo rhoi nerth newydd a gweithio i uno'r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddo lansio'i ymgyrch i arwain grŵp y blaid yn y Cynulliad.

Mae AC Preseli Penfro yn dweud fod ganddo'r sgiliau a'r profiad i gipio seddi ymylol allweddol gan Lafur yn etholiad 2021.

Ychwanegodd mai'r aelodau cyffredin fyddai'n cael y gair olaf pe bai unrhyw son am ffurfio llywodraeth glymblaid ar ôl yr etholiad nesaf.

Dywedodd ei fod yn falch fod aelodau yn cael llais wrth ddewis arweinydd y blaid, ond fod hefyd angen ymgynghori â nhw ar faterion eraill yn ogystal.

"Byddaf yn sicrhau, pe bai cynnig o ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phleidiau eraill, yna byddai aelodau yn cael eu gwahodd i gynhadledd arbennig wedi'r etholiad (i fynegi barn). "

Mae'r unig ymgeisydd arall am arweinyddiaeth y blaid, Suzy Davies AC Gorllewin De Cymru, yn bwriadu dechrau ei hymgyrch hithau yr wythnos nesaf.

Bydd un o'r ddau yn olynu Andrew RT Davies, yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo ym mis Mehefin.

Suzy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzy Davies yn herio Paul Davies am yr arweinyddiaeth

Wrth lansio'i ymgyrch ym Mrynbuga, Sir Fynwy, dywedodd Mr Davies ei fod yn ffyddiog fod ganddo'r "sgiliau a'r profiad" i arwain y blaid i frwydro am seddi Gogledd Caerdydd, Gŵyr a Wrecsam gyda nifer o ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, o bob cwr o Gymru.

"Yn yr etholaethau Llafur-Ceidwadwyr hyn fydd yr etholiad nesaf yn cael ei benderfynu."

Mae ei faniffesto, o'r enw Newid Cymru, yn cynnwys cynigion i "gyflwyno atebolrwydd democrataidd" i fyrddau iechyd ac yn galw am ddilyn "agenda trethi isel", gyda chyfrifoldeb rhannol dros drethi incwm yn cael ei ddatganoli i Gymru ym mis Ebrill 2019.

Bydd papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cael eu hanfon at aelodau'r blaid ar 15 Awst, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi ar 6 Medi.

Mae 12 AC yn rhan o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol o 60.