Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2019 i'w chynnal yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru y bydd seremoni wobrwyo nesaf Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal i Aberystwyth.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau, ar 20 Mehefin 2019.
Yn y gorffennol, mae'r seremoni wedi ei chynnal yn Galeri Caernarfon a'r Redhouse ym Merthyr Tudful, ac yn fwy diweddar yn y Tramshed yng Nghaerdydd.
Caiff gwobrau Llyfr y Flwyddyn eu rhoi i'r gweithiau gorau yn Gymraeg a Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Mae Theatr y Werin yn y broses o gael ei adnewyddu ar hyn o bryd.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: "Rydym wrth ein boddau i gael croesawu noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yma i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth yn 2019.
"Ond nid noson yn unig bydd hon, yn hytrach wythnos o weithgareddau i'r hen a'r ifanc i ddathlu llên gyda'r noson wobrwyo yn goron iddi.
"Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur nawr!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018