Alfie Mawson yn symud o Abertawe i Fulham

  • Cyhoeddwyd
Alfie MawsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Fulham wedi arwyddo'r amddiffynnwr canol Alfie Mawson o Abertawe, am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Ymunodd Mawson â'r Elyrch o Barnsley yn 2016, gan ennill gwobr chwaraewr y gêm yn ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn erbyn Watford.

Chwaraeodd yr amddiffynnwr ym mhob un o gemau cynghrair Abertawe y tymor diwethaf, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan Lloegr yn ystod ei amser yn y clwb.

Y gred yw bod Mawson wedi gadael am ffi o tua £15m gan arwyddo cytundeb pedair blynedd â Fulham - a enillodd ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Dilynai Mawson nifer o enwau mawr allan o Abertawe, gydag Andre Ayew, Lukasz Fabianski, Roque Mesa a Ki Sung-yueng eisoes wedi gadael y clwb yn ystod yr haf.

Mae disgwyl i Sam Clucas a Jordan Ayew adael y clwb yn y dyddiau nesaf hefyd, wrth i'r Elyrch baratoi at gêm gyntaf y tymor newydd yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn.