Perfformiad arbennig o Mamma Mia! i gleifion dementia
- Cyhoeddwyd
Mae sinema yng Nghasnewydd wedi rhoi cyfle arall i ddynes â chyflwr dementia i weld y ffilm Mamma Mia!, ar ôl i broblemau olygu ei bod wedi gadael cyn diwedd perfformiad cyntaf mewn sinema arall.
Dywedodd Rhiannon Lewis ei bod wedi gorfodi ei mam Shirley i adael Cineworld yng Nghwmbrân ar ôl iddi glywed rhan o'r gynulleidfa yn gwneud stumiau ac aflonyddu wrth glywed ei mam yn cyd-ganu gyda'r ffilm
"Doedd gennym ddim dewis... o ni'n teimlo bod rhaid gadael," meddai Ms Lewis.
Ond fe fydd Shirley, sy'n 69, nawr yn cael cyfle i fynychu ymddangosiad arbennig i bobl sydd â dementia - diolch i reolwr Cineworld yng Nghasnewydd.
"Mamma Mia yw ei hoff beth - a gyda'i chyflwr mae'r canu yn helpu iddi lonyddu, " meddai Ms Lewis wrth y BBC.
"Ar ôl tua 20 munud o'r ffilm fe wnaeth hi gyffroi ar ôl clywed un o'i ffefrynnau, gan ddechrau gweiddi ar y sgrin.
"Roedd yna fenyw y tu cefn i ni gyda phlentyn ifanc, ac roedd e'n amlwg ein bod yn amharu ar ei mwynhad."
"Roedd hi'n anesmwytho ac yn ebychu, ac yn gwneud i ni deimlo yn anghyfforddus."
"Roedd fy mam yn ypset iawn a gweiddi wrth adael, ac mae'n siŵr i rai ei bod yn edrych fel ei bod yn feddw."
Cefnogaeth
Ar ôl i Ms Lewis adrodd yr hanes ar Facebook cafodd gefnogaeth nifer o bobl, ac fe wnaeth rheolwr Cineworld yng Nghasnewydd ffonio gan gynnig tocynnau am ddim ar gyfer sesiwn breifat o'r ffilm.
Ers hynny mae Ms Lewis wedi gwerthu 70 o docynnau gyda'r elw yn mynd i elusen Alzheimer UK.
"Nawr, pe bai fy mam isio canu, mae rhwydd hynt iddi wneud."
Fe fydd y ffilm yn cael ei dangos am Cineworld Casnewydd am 15:00 ar 19 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Awst 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018