Twf economaidd Merthyr Tudful yn 'newid delwedd' y dref

  • Cyhoeddwyd
Bike Park Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae atyniadau twristiaeth fel Bike Park Wales wedi bod yn hwb mawr i economi Merthyr Tudful

Mae mwy o bobl ym Merthyr Tudful yn gweithio erbyn hyn na chyfartaledd gweddill Cymru, yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru.

Ym mis Mawrth 2018, 5.7% o'r boblogaeth oedd yn ddi-waith - sy'n uwch na'r cyfartaledd ond yn is na threfi eraill yn y cymoedd.

Mae'r gyfradd cyflogaeth yn 74%, ffigwr uwch na chyfartaledd Cymru o 72.7%.

Dywed trigolion Merthyr Tudful eu bod yn falch bod economi'r dref wedi ffynnu yn llawer gwell na'r disgwyl dros y blynyddoedd diwethaf, ac o'r herwydd bod y ddelwedd negyddol o'r dref wedi ei thrawsnewid yn llwyr.

Credir mai cyfuniad o fuddsoddiad ac atyniadau twristiaeth newydd sydd wrth wraidd y newid yn nelwedd y dref.

Mae nifer o drigolion Merthyr wedi gweld "gwahaniaeth mawr" yn arferion gwario pobl leol dros y blynyddoedd diwethaf.

Dros y 12 mlynedd ddiwethaf, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n gweithio i gwmnïoedd preifat ym Merthyr - hynny yn wahanol i nifer o ardaloedd eraill yng Nghymru.

Disgrifiad,

Balchder pobl Merthyr Tudful yn eu tref wrth i ganran y bobl yno sy'n gweithio gynyddu

Yn ôl Ann Hickey, sy'n cadw tŷ gwyliau yn y dref, mae Merthyr wedi cael "enw negyddol iawn" yn y gorffennol, ond erbyn hyn mae ymwelwyr sy'n dod i aros yn "cael syrpreis ar yr ochr orau".

Mae hi'n croesawu twristiaid o bob ban byd - o Lundain i Awstralia - i aros yn ei thŷ gwyliau, gyda nifer ohonynt yn dod i gerdded ym Mannau Brycheiniog ac eraill yn mynd i feicio ar hyd llethrau serth Bike Park Wales.

"Dwi'n meddwl bod Bike Park Wales yn dod â enw da i Ferthyr. Mae'n rhoi Merthyr ar y map," meddai Mrs Hickey.

Ers dyfodiad y Bike Park, dywedodd Mrs Hickey bod mwy fyth o bobl yn dod i aros yn ei thŷ gwyliau.

"Ni'n reit brysur drwy'r flwyddyn."

'Angen buddsoddi yn y canol'

Yn ogystal â hynny, mae Mrs Hickey wedi gweld "llawer o welliant" yn nhref Merthyr yn y 10 mlynedd diwethaf.

"Dwi'n credu bod lot o arian wedi cael ei wario - gwastraffu falle hefyd - ond i fod yn bositif, mae Merthyr yn edrych yn dda o'i gymharu â beth o'dd e arfer edrych fel."

Er hynny, mae Mrs Hickey yn credu ei bod hi'n bwysig bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi yng nghanol y dref wrth i ddatblygiadau siopa mawr ehangu ar y cyrion.

"Yn y pum mlynedd nesaf, mae rhaid iddyn nhw fod yn wyliadwrus i roi fwy o arian yn y dre' i gadw'r dre' yn fyw, achos mae 'na le fel Trago Mills wedi dod i Ferthyr, mae 'na barc retail arall ym Merthyr, felly mae rhaid iddyn nhw fod yn ofalus i beidio colli'r dre' hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Paula Daniel ei busnes Diva Hair Design ym mis Mawth 2017

Fel Mrs Hickey, mae Paula Daniel yn rhedeg busnes yn y dref.

Agorodd Diva Hair Design ym mis Mawrth 2017 yn ardal Gelli-deg, a chwe mis ar ôl agor, roedd rhaid iddi chwilio am safle fwy o faint.

"Roedd y busnes wedi tyfu cymaint yn y dre', drwy wefannau cymdeithasol yn unig, sylweddolais nad oedd hi'n bosib cynnal y busnes ar y safle.

"Roeddwn i yn gyflogwr erbyn hynny hefyd, ac roedd rhaid i mi symud er mwyn rheoli'r busnes."

'Mwy o arian i'w wario'

Mae Ms Daniel wedi rhyfeddu fod cymaint o alw ar y busnes ac wedi sylwi bod pobl yn fwy parod i wario eu harian nag oedden nhw.

"Mae llawer mwy o bobl yn sefydlu busnesau tebyg gan fod gan bobl fwy o arian i wario oherwydd y swyddi sydd wedi dod yma'n ddiweddar.

"Mae mwy o bobl yn gwario arian ar eu hunain o fewn y diwydiant harddwch.

"Yn hytrach na lliwio gwallt pob chwech neu saith wythnos, maen nhw'n dod mewn y rhan fwyaf o benwythnosau i drin eu gwallt a gwneud eu colur."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayson Senchal wedi gweithio yng nghanolfan cwmni cyfathrebu EE ers 17 mlynedd

Mae Jayson Senchal yn un o'r 920 o bobl sy'n cael eu cyflogi yng nghanolfan cwmni cyfathrebu EE ym Merthyr.

Mae Mr Senchal wedi gweithio yn y ganolfan ers i'r safle agor 17 o flynyddoedd yn ôl, ac yn teithio yno o Rydaman bob dydd.

Dywedodd bod nifer o newidiadau wedi bod yn y dref yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Mae Merthyr wedi symud o'r hen ddiwydiannau hanesyddol, a fi'n credu bod pobl yn edrych tua'r dyfodol, diwydiannau newydd a gobeithio bydd swyddi o safon da yn cael eu creu yma yn y cymoedd."

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd pennaeth EE fod canolfan y cwmni ym Merthyr yn "rhan fawr" o'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel Mrs Hickey, mae Mr Senchal o'r farn bod pobl yn dechrau edrych ar Ferthyr mewn ffordd wahanol: "Mae Merthyr wedi cael enw gwael dros y blynyddoedd, ond dwi'n credu bod hynny yn y gorffennol nawr - mae e gyd wedi newid."