Dim perygl o brinder dŵr er cynlluniau brys Dŵr Cymru
- Cyhoeddwyd
Er yr wythnosau lawer o dywydd sych, does 'na ddim perygl o brinder dŵr - dyna neges Dŵr Cymru ar ôl iddyn nhw gyflwyno cynlluniau brys ar draws y wlad i ddelio â'r diffyg glaw.
Yn y cyfamser, mae'r cwmni'n cynllunio ymhellach i'r dyfodol, ac at ragor o gyfnodau sych.
Ymhlith y cynlluniau dros dro, mae 24 o danceri'n cael eu defnyddio i symud tua 3m litr o ddŵr bob dydd o Lyn Cowlyd, ger Dolgarrog yn Nyffryn Conwy, i safle dros dro ger gwaith dŵr Cwellyn ym Metws Garmon.
Gan fod mwy o ddŵr yn Sir Fôn ar hyn o bryd, mae cronfeydd yno'n cyflenwi rhagor o gwsmeriaid yr ynys, yn ogystal â rhannau o Fangor.
'Cost sylweddol'
Cael ei bwmpio o'r tir mawr i'r ynys mae cyflenwadau fel arfer, ond ar ôl gosod pibelli a phympiau newydd yn ardal Treborth, mae'r dŵr yn gwneud y siwrne i'r cyfeiriad arall - o'r ynys - a hynny am y tro cynta' erioed.
Mae cynlluniau fel y rhain yn golygu gwario mwy, ond mae Dŵr Cymru'n dweud na fydd biliau cwsmeriaid yn codi o'r herwydd.
Dywedodd rheolwr gweithfeydd dŵr gogledd Cymru, Rhys Lewis:
"Mae'r gost yn eitha' sylweddol. Yn y gogledd yn unig, 'da ni'n gwario tua £500,000 yr wythnos ac ar draws Cymru mae'n agosach at £1.5 miliwn. Ond ar y funud 'da ni'n gorfod gwneud be' fedra ni i'r amgylchedd ac i'n cwsmeriaid.
"Fydd y cwsmer ddim yn gweld effaith uniongyrchol ar eu biliau nhw achos o'r tywydd yma.
"Mi ydan ni'n defnyddio tanceri i gludo dŵr o gwmpas ardaloedd yn eitha' rheolaidd, lle 'da ni wedi cael burst a'r cyflenwad dan fygythiad. Ond ar y raddfa yma, dydy o ddim yn rhywbeth cyffredin o gwbl.
"Fel arfer trwy'r gweithfeydd i gyd 'da ni'n cynhyrchu tua thri chwarter biliwn litr o ddŵr bob diwrnod. Ond dros y cyfnod poeth ym mis Gorffennaf roedden ni'n cynhyrchu dros biliwn. Y rhan fwya' oherwydd bod pobl yn rhoi dŵr ar eu gerddi.
"Allan o'r holl ddŵr 'da ni'n ei gynhyrchu, dim ond rhyw 5% sy'n cael ei yfed. Mae'r gweddill yn mynd lawr y toiled neu ar yr ardd.
'Troi'r tap i ffwrdd'
"Felly os gall y cwsmeriaid ein helpu ni drwy wneud pethau bach fel troi'r tap i ffwrdd wrth frwsio dannedd neu hyd yn oed rhoi dŵr golchi llestri ar y planhigion, fasa pawb yn gwneud pethau bach fasa fo'n helpu lot arnon ni."
Wrth i'r hinsawdd newid a'r darogan am fwy o gyfnodau sych i ddod, mae Dŵr Cymru yn cynllunio yn yr hirdymor ac yn hyderus o allu ymdopi â'r newidiadau.
Ychwanegodd Rhys Lewis:
"Dwi'n meddwl efo newid hinsawdd bod yn rhaid i ni baratoi at hyn fod yn rhywbeth lot fwy rheolaidd.
"Felly mi fyddan ni'n dysgu o bob dim 'da ni wedi'i wneud dros y misoedd diwetha' ac yn gwneud pob dim yn barhaol fel bod ni wedi paratoi gymaint a fedrwn ni ar gyfer hyn yn digwydd eto yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018