Leanne Wood yn 'chwerw' nad yw'n medru'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "chwerw am golli allan ar ddiwylliant" gan nad yw hi'n siarad Cymraeg rhugl.

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Leanne Wood ei bod hi wedi derbyn na fydd hi'n siarad Cymraeg gwych ond na fydd hi'n rhoi'r gorau i ddysgu'r iaith.

Dywedodd Ms Wood, a lansiodd ei hymgyrch am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gyfan gwbl yn Gymraeg;

"Mae diffyg hyder yn rhwystr. Dwi wedi colli cownt o'r adegau dwi wedi teimlo'n anghyfforddus pan mae siaradwyr Cymraeg yn troi i'r Saesneg oherwydd fi.

"Dwi'n teimlo'n chwerw am yr holl ddiwylliant dwi'n colli mas arno fe."

"Ond - mwy na dim - dwi'n teimlo'n grac. Yn grac mod i wedi colli rhywbeth mor werthfawr - rhywbeth o'n i yn haeddu ei gael, a rhywbeth oedd gan fy nhad-cu."

'Agoriad llygad'

Dywedodd AC y Rhondda iddi gael "agoriad llygaid diwylliannol" yn y brifysgol ond dywedodd wrth BBC Cymru fod bwlch yn ei dealltwriaeth.

"Mae gen i lawer o ffrindiau sy'n siarad Cymraeg... maen nhw'n siarad llawer am wahanol ddigwyddiadau, boed yn farddoniaeth gan Catrin Dafydd neu'n ddrama.

"Dwi'n ymwybodol na allaf werthfawrogi, er fy mod yn deall y rhan fwyaf o'r geiriau, dydw i ddim yn gallu cael yr holl ystyr.

"Pan fyddwch chi'n gwrando ar bobl rydw i'n deall bod cryn dipyn ar goll yn fy ngwybodaeth o brofiad diwylliannol y wlad hon gwneud i mi deimlo'n ddig iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood yn lansio'i hymgyrch yn etholiad arweinyddol Plaid Cymru lle mae'n cael ei herio gan Rhun ap Iorwerth ac Adam Price

Roedd ei thaid, Maurice James, yn byw yn Llechryd ger Aberteifi cyn symud i'r Rhondda. Dywedodd Ms Wood fod yr iaith Gymraeg wedi gadael y teulu o'r adeg pan ddywedodd rhywun wrtho fod y Gymraeg yn "backward".

Dylai pob disgybl yng Nghymru gael ei addysgu mewn ysgol ddwyieithog neu gyfrwng Cymraeg, meddai Ms Wood.

Roedd ei hatgofion o wersi Cymraeg yn yr ysgol yn debyg i ddysgu theorem Pythagoras meddai:

"Roedd gennym wersi Cymraeg gorfodol yn yr ysgol nad oeddwn yn mwynhau yn arbennig - roedd anallu i weld sut roedd y gwersi hynny yn gysylltiedig â'r byd tu allan."

Dywedodd Leanne Wood fod yr Eisteddfod yn ddigwyddiad "o safon fyd-eang" gydag apêl amrywiol arbennig yn yr ŵyl eleni yng Nghaerdydd. Dywedodd hi:

"Rydw i bob amser yn rhyfeddu i weld yr amrywiaeth eang a'r talent mewn cymaint o ddisgyblaethau"

Dywedodd Ms Wood, sy'n cael ei herio gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth am arweinyddiaeth Plaid Cymru, ei bod hi'n bwysig i arweinydd y blaid ddangos agwedd bositif tuag at yr iaith ond na ddylai'r arweinydd neu'r Prif Weinidog orfod bod yn siaradwr Cymraeg.