Shaun Edwards i adael ei swydd fel hyfforddwr amddiffyn
- Cyhoeddwyd
Bydd Shaun Edwards yn gadael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru yn 2020 er mwyn dychwelyd i'r Wigan Warriors.
Tra'n chwaraewr fe dreuliodd Edwards 14 mlynedd gyda'r clwb rygbi'r gynghrair, gan ennill bob tlws bosib.
Bydd Edwards yn parhau yn ei swydd gyda Chymru tan fod ei gytundeb yn dod i ben ar ôl Cwpan y Byd 2019 yn Siapan.
Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr amddiffyn llwyddodd y tîm rhyngwladol i ennill dau Gamp Lawn, pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013 yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2011.