Marwolaeth Tredegar Newydd: Cyhuddo tri o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff David Gaut, 54 oed, ei ddarganfod yn ardal Tref Elliot ar 4 Awst
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 54 oed gafodd ei ganfod yn farw yn Nhredegar Newydd dros y penwythnos.
Cafodd corff David Gaut ei ddarganfod yn Long Row yn ardal Tref Elliot ddydd Sadwrn.
Mae tri dyn, 23, 47 a 51 oed, wedi eu cyhuddo o lofruddio Mr Gaut.
Bydd y tri yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd6 Awst 2018