Mellt yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018
- Cyhoeddwyd
Mellt sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Mae'n Haws Pan ti'n Ifanc.
Cafodd y grŵp o Aberystwyth y tlws mewn seremoni arbennig ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Dyma'r pumed tro i'r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Yn ogystal enillodd Gwilym Bowen Rhys wobr Tlws Sbardun, am gân wreiddiol ac acwstig ei naws.
Rhestr fer 'hynod eclectig'
Dyma'r albwm cyntaf i Mellt eu rhyddhau ers eu EP, Cysgod Cyfarwydd yn 2014.
Cafodd yr albwm ei recordio gyda'r cynhyrchydd Mei Gwynedd ar label JIGCAL yng Nghaerdydd.
Dywedodd Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn: "Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli.
"Braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd â barn gref am bob un o'r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer."
Mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys The Gentle Good, Gwenno Saunders a Sŵnami, gyda Bendith yn dod i'r brig y llynedd.
Y deg albwm ar y rhestr fer oedd:
Band Pres Llareggub - Llareggub
Blodau Gwylltion - Llifo fel Oed
Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach
Gai Toms - Gwalia
Gwyneth Glyn - Tro
Mellt - Mae'n Hawdd Pan ti'n Ifanc
Mr Phormula - Llais
Serol Serol
Y Cledrau - Peiriant Ateb
Yr Eira - Toddi
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018