Miloedd yn croesawu Geraint Thomas 'nôl i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi bod ar strydoedd Caerdydd i groesawu Geraint Thomas yn swyddogol ar ôl ei fuddugoliaeth hanesyddol yn y Tour de France.
Cafodd y seiclwr 32 oed ei longyfarch gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywydd y Senedd Elin Jones, ynghyd â 3,000 o bobl oedd wedi ymgynnull ym Mae Caerdydd o flaen y Senedd.
Dywed yr heddlu eu bod yn credu bod 5,000 yn rhagor ar hyd strydoedd canol y brifddinas.
Dywedodd Geraint Thomas wrth y dorf ei fod wedi ei syfrdanu a'i ryfeddu.
Fe wnaeth o gellwair: "Ar un adeg o ni'n poeni mai dim ond y wraig a'r ci fyddai'n troi lan!"
Dywedodd y prif weinidog: "Mewn gwleidyddiaeth rydych yn treulio lot o amser yn ceisio gwerthu brand Cymru i'r byd, mae Geraint wedi gwneud mwy mewn 21 diwrnod na y gallwn i wedi ei wneud mewn 21 mlynedd.
"Ar ran yr holl wlad, rwyf am ddiolch am yr hyn rydych wedi ei wneud."
O'r Senedd fe deithiodd Thomas ar ei feic ar Heol Eglwys Fair gyda chriw o seiclwyr ifanc i Gastell Caerdydd, ac yna cafodd ei gyflwyno i'r torfeydd unwaith yn rhagor.
Yno hefyd i'w groesawu oedd y digrifwr Max Boyce, oedd wedi cyfansoddi cerdd yn clodfori'r pencampwr.
Roedd nifer o strydoedd y brifddinas wedi eu cau i drafnidiaeth ar gyfer yr achlysur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018