Edrych 'mlaen at Eisteddfod Sir Conwy 2019

  • Cyhoeddwyd
Croeso i'r Eisteddfod

Dywed cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Conwy bod y pwyllgor eisoes wedi codi mwy na hanner y targed ariannol sydd wedi'i osod.

Daw sylwadau Trystan Lewis wedi i Brifwyl Caerdydd ddod i ben ac wrth i eisteddfodwyr droi eu golygon tuag at Eisteddfod Sir Conwy y flwyddyn nesaf.

Mae Mr Lewis yn wreiddiol o Ddeganwy ac yn adnabyddus fel cerddor a dyn busnes.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae 'na andros o ddiddordeb, cymaint o edrych ymlaen".

Yn sgil ymddeoliad y prif weithredwr Elfed Roberts mae prif weithredwr newydd wedi'i benodi ac Eisteddfod Llanrwst fydd y birfwyl gyntaf i Betsan Moses.

Yn ôl Ms Moses mae'n gyfnod "cyffrous iawn", gan fod pobl wedi gweld potensial yr ŵyl yma eleni, felly "mae 'na gynnwrf braf iawn wedi cychwyn, lle mae pobl yn teimlo ar dân i wneud mwy dros yr Eisteddfod".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Betsan Moses nawr yn olynu Elfed Roberts (chwith) fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod

'Datblygiadau anhygoel'

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanrwst rhwng 2-10 Awst 2019.

Dyma'r tro cyntaf i'r brifwyl ymweld â Llanrwst ers 30 mlynedd union - y tro diwethaf yn ôl yn 1989.

Dywedodd Ms Moses fod yr Eisteddfod wedi gwneud "datblygiadau anhygoel" eleni, gan nodi'r partneriaethau newydd gyda Encore a Mas ar y Maes.

"Mae rhain yn ddatblygiadau pwerus iawn, ble mae pobl yn teimlo fod y steddfod yn perthyn iddyn nhw, felly mae angen parhau i edrych ar hynny a datblygu hynny dros y blynyddoedd i ddod" meddai.

Yn ôl Ms Moses y cyngor gorau iddi hi ei dderbyn gan Elfed Roberts yw: "Gwranda. Hidla. Gweithreda".

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion pwyllgor gwaith 2019 yw (o'r chwith i'r dde) Dylan Rhys Jones, Sian Eirian, Catherine Jones a Trystan Lewis

Arian yn 'llifo i mewn'

O ran y paratoadau ariannol, dywedodd Mr Lewis bod yr arian yn "llifo mewn" a'u bod eisoes wedi codi "ymhell dros hanner" eu targed.

"Mae codi arian yn gallu bod yn faich, neu mi all ddod â chymunedau at ei gilydd, a dwi'n teimlo mai dyna sy'n digwydd - bod pobl yn mwynhau'r gweithgareddau codi arian."

Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol y bydd galw mawr am safleoedd ar gyfer carafanau yn Llanrwst, a'i fod yn siŵr y bydd y "ddarpariaeth yn ardderchog" ar gyfer hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn ailymweld â Llanrwst 30 mlynedd union ers iddi fod yno ddiwethaf yn 1989

Dywedodd Mr Lewis y bydd hefyd yn cyfarfod gyda chadeirydd pwyllgor gwaith eleni, Ashok Ahir yn y dyddiau nesaf i gael cyngor.

"Mae'r Steddfod yma wedi bod mor arbrofol, unigryw a llwyddiannus, a 'da ni'n edrych ymlaen yng Nghonwy i ddysgu rhai pethau o'r Steddfod yma."

'Parhau i ddatblygu'

Yr "her" ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn ôl Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, ydy "edrych ar eleni, a gweld sut ydyn ni am elwa o brofiadau eleni. Mae'n bwysig i ni ddysgu bob blwyddyn".

"Fydd o mewn cae, felly mae o'n wahanol i eleni, ond eto'n debyg oherwydd y cynnwys" meddai.

"Fe fyddwn ni'n parhau i ddatblygu, gwthio pethau newydd a symud yn ein blaenau."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gorymdaith i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2019 i Sir Conwy ei chynnal ym mis Gorffennaf

Gan sôn am y prif weithredwr newydd, dywedodd Ms Elis bod hi a "Betsan yn dod ymlaen yn grêt", a bod ganddi "sialens o'i blaen hi rŵan i "arwain y ffordd wrth i ni ddatblygu ar gyfer y dyfodol".

Eisteddfod gynhwysol

Dywedodd Ms Moses nad oes angen i'r Eisteddfod drawsnewid o gwbl, ond yn hytrach esblygu er mwyn sicrhau llwyddiant.

Ychwanegodd hefyd nad oes bwriad i newid y rheol iaith ar hyn o bryd.

"Mae pobl yn meddwl - oherwydd fy nghefndir i o weithio yn y celfyddydau neu beth bynnag - fy mod i'n mynd i lacio'r rheol iaith.

"Mae'r rheol iaith yn aros, ond y peth pwysig i mi yw ein bod ni'n gynhwysol, a bod pobl yn cael mynediad i'r steddfod a bo nhw'n gallu deall beth yw'r ŵyl er mwyn gallu ei phrofi yn llawn.

"Mae'n perthyn i ni gyd yng Nghymru - boed yn siarad Cymraeg neu beidio."