Alun Davies AC yn galw am ail refferendwm ar Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae un o ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn dweud y dylid cael ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.
Wrth adolygu'r papurau ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore Sul, dywedodd Ysgrifenydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Alun Davies, ei bod hi'n bwysig mewn gwleidyddiaeth bod yna amser i newid meddwl.
"Mae'r hyn a ddigwyddodd," medd Mr Davies, "yn dangos fod pobl wedi cael eu camarwain gan ymgyrchwyr oedd o blaid gadael.
"Dwi'n credu fod pobl wedi pleidleisio o blaid gadael am eu bod yn anhapus gyda phenderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan gynghorau a gan gwleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan.
"Dwi'n credu fod pleidlais Brexit yn dangos diffyg hyder y cyhoedd ynom ni fel gwleidyddion - hynny yw gwleidyddion o bob plaid.
"Rwyf i eisoes wedi llofnodi y llythyr i gael ail refferendwm."
'Efelychu America'
Wrth gyfeirio at arweinyddiaeth Llafur dywedodd Alun Davies, a gyhoeddodd ddiwedd wythnos ddiwethaf ei fod e yn dymuno sefyll, fod angen ehangu y broses.
"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig fod pobl y tu hwnt i'r bae yn cael cyfle i enwebu.
"Dylai Aelodau Seneddol ac arweinyddion cyngor gael yr un hawl ag aelodau cynulliad.
"Mae'n bwysig ehangu democratiaeth y tu fewn i'r blaid er mwyn cynnwys pawb.
"Efallai y dylid cael system debyg i'r primaries yn America - licen i pe bai hynny yn digwydd."
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies, ei fwriad i ymgeisio i arwain Llafur Cymru.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau pump enwebiad i gael sefyll am yr arweinyddiaeth.
Mr Davies yw'r pumed aelod i gynnig ei enw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018