Galw am ddiogelu graffiti o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Twnel Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pont sydd dafliad carreg o orsaf Berwyn yn frith o graffiti gan filwyr oedd ar eu ffordd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae 'na alwad o'r newydd i ddiogelu graffiti o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Llangollen.

Fe ysgrifennodd milwyr oedd ar eu ffordd i faes y gad eu henwau a negeseuon ar frics o dan bont reilffordd yn y dref.

Mae'r bont dafliad carreg o orsaf trenau Berwyn, lle fyddai rhai milwyr wedi dal y trên cyn gadael i fynd i ryfel.

Yn ôl un ymwelydd, oedd yn mynd am dro yn yr ardal, mae'n "drueni mawr" bod yr ysgrifen yn dirywio wrth i law ac algae effeithio'r wal.

Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o'r llofnodion sydd wedi eu hysgrifennu ar y wal, gyda nifer ohonynt hefyd yn ymddangos ar y gofeb ryfel sydd yng nghanol Llangollen

Mae'n debyg bod 11 neges gan filwyr o'r cyfnod yn y safle ger pont gadwyni enwog Llangollen.

O'r rheiny, bu farw pedwar ar faes y gad - ac mae eu henwau nhw ar y gofeb ryfel yng nghanol y dref.

Fe ysgrifennodd un milwr, AJ Candy, ei fod "eisiau'r babi" ac mae ei enw hefyd ymhlith y rheiny ar y gofeb.

Enghraifft arall yw dwy neges gan filwr o'r enw R Roberts. Mae'n debyg i un o'r negeseuon gael ei hysgrifennu tra ei fod adref ar leave ac mae'n dangos ei fod wedi cael dyrchafiad o fewn y fyddin ers iddo ysgrifennu'r neges gyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gofeb i goffau'r milwyr fu farw yn ystod y rhyfel yn sefyll yng nghanol tref Llangollen

Yn ôl Dr Gethin Matthews, hanesydd gyda Phrifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae graffiti gan filwyr i'w weld mewn nifer o leoliadau, ond mae'r enghreifftiau yma ychydig yn wahanol.

"Mae 'na enghreifftiau ar draws Ewrop o filwyr wedi gadael eu henwau nhw - lot wedi eu darganfod yn Ffrainc mewn twneli.

"Yng Nghymru, mae 'na enghreifftiau o filwyr Americanaidd o'r Ail Ryfel Byd sydd wedi gadael eu henwau - y gwahaniaeth yn Llangollen yw mai dynion lleol sydd wedi gadael eu hôl ar eu milltir sgwâr, falle wrth iddyn nhw adael eu pentrefi am y tro olaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymwelydd ac ymchwilwyr yn poeni am gyflwr y wal, gyda'r tywydd ac algae yn bygwth difrodi'r llofnodion

Cafodd y graffiti yn Llangollen ei gofnodi'n fanwl gan y ffotograffydd David Gepp dros ddegawd yn ôl, gydag arddangosfa o'r gwaith yn cael ei chynnal yn Llangollen yn 2007.

Ond mae un fu'n ymweld â'r safle yn ddiweddar yn credu bod angen gwneud mwy i'w ddiogelu.

Wrth gerdded yn yr ardal y daeth Iwan Hughes, athro o'r Fflint, o hyd i'r negeseuon.

"Mae'n rhan o'n treftadaeth, yn tydi?" meddai.

"Mae jyst yn drueni mawr bod y cen a'r algae yn dod yn raddol i'w chwalu, fel nodiadau ar fwrdd gwyn athro - pan fo'r wers drosodd, mae'n cael ei rwbio i ffwrdd."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Ddinbych am sylw.