Arian i gymnedau Powys i adfer cofebau'r Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
Sant SilynFfynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r gofeb yn Eglwys Sant Silin yn Llansilin ger Croesoswallt cyn iddi gael ei hadnewyddu

Mae cymunedau ym Mhowys yn cael eu hannog i wneud cais am grant i atgyweirio a chynnal cofebion y Rhyfel Byd Cyntaf.

£5,000 yw'r uchafswm grant sydd ar gael i atgyweirio un gofeb, ac mae hyd at £200 ar gael i wella cyffiniau'r gofeb, er enghraifft trwy osod ffens, gât neu lifolau.

Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn amcangyfrif bod 300 o gofebion i'r Rhyfel Mawr hyd a lled y Sir, ond y gallai'r nifer yna fod yn uwch wrth ystyried nifer o gofebau 'coll' neu 'answyddogol'.

Yn ôl y prosiect "mae unrhyw fath o gofeb o'r Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhowys yn gymwys, gan gynnwys obelisgau carreg, ffenestri lliw, placiau, cerfddelwau neu neuaddau".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gofeb yn Eglwys Sant Silin yn un o sawl cofeb ar draws Powys sydd eisioes wedi cael eu trwsio fel rhan o'r cynllun

Dywedodd y Cynghorydd Martin Weale, Aelod Portffolio ar faterion Adfywio a Chynllunio: "Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn arwydd o'n parch tuag at yr unigolion hynny a adawodd Powys i aberthu eu bywydau."

"Mae'r cofebion yn rhan annatod o'n trefi, ein pentrefi a'n cymunedau ac yn darparu canolbwynt ar gyfer y cofio.

"Mae'r cyllid yn rhoi cyfle i Bowys gofio a sicrhau bod y cofebion yn cael eu diogelu a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Rhestr yn anrhydeddu'r meirw o dref Llanfair ym Muallt, Salem a Chefn Bedd. Cafodd y gwaith o'i hadfer ei ariannu gan y Prosiect Cofebion

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Y rhestr ar ôl iddi gael ei hadfer gan dîm o grefftwyr

Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys, yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y loteri, Cadw, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r prosiect hefyd yn awyddus i ddod o hyd i gofebau 'coll' neu 'answyddogol', allai fod un ai wedi cael eu hanghofio, eu symud wrth i waith gael ei wneud ar adeilad neu leoliad, neu eu rhoi fel rhodd i rywun.

Bydd arian hefyd ar gael ar gyfer hyfforddiant cymunedol er mwyn ymchwilio i'r enwau ar y cofebion rhyfel neu sut i sefydlu gwefan i gofnodi enwau ar gofebion rhyfel, a hefyd ar gyfer unrhyw ddathliadau i gyd-fynd â'r canmlwyddiant.