Ceir heddlu mewn gwrthdrawiad wrth ymateb i alwad 999
- Cyhoeddwyd

Mae wedi dod i'r amlwg fod dau gar heddlu'n rhan o'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A48 yn y gorllewin yn gynnar fore Mawrth.
Cafodd y ffordd rhwng Cross Hands a Foelgastell yn Sir Gaerfyrddin ei chau am bron i 10 awr wedi i dri cherbyd daro'i gilydd am 01:20.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys bod eu cerbydau'n ymateb i alwad 999 ar y pryd.
Cafodd swyddogion o'r heddlu fân anafiadau yn y gwrthdrawiad, ond ni chafodd y ddau berson oedd yn teithio yn y trydydd car - nad oedd yn gar heddlu - eu hanafu.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i'r gyffordd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y brif ffordd rhwng Caerfyrddin ac Abertawe.
"Mae'r heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad rhwng tri char, oedd yn cynnwys dau o gerbydau'r heddlu oedd yn ymateb i alwadau", dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.
Mae'r A48 bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad.