Iawndal o £16,000 i deulu cyn-weithiwr ffwrn golosg
- Cyhoeddwyd

Roedd ffyrnau golosg yn aml yn rhan o byllau glo yng Nghymru
Mae gweddw o Gymru wedi cael iawndal wedi i lys ddyfarnu bod ei gŵr wedi dioddef o froncitis cronig am nad oedd wedi'i warchod rhag nwyon a llwch peryglus.
Mae'r achos, a phedwar arall tebyg iddo, wedi'i ddisgrifio fel "carreg filltir" gan gyfreithwyr Hugh James sy'n cynrychioli'r grŵp o gyn-weithwyr ffyrnau golosg Glo Prydain.
Mae dros 100 o gyn-weithwyr o Gymru, sydd yn honni eu bod wedi dioddef o afiechydon fel canser yr ysgyfaint ac emffysema, nawr yn disgwyl i'w hachosion nhw gael eu datrys.
Yn dilyn y dyfarniad, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn ystyried y camau nesaf.
'Amodau llychlyd'
Roedd y broses golosgi - sef puro glo ar dymheredd uchel i wneud tanwydd di-fwg - yn digwydd mewn safleoedd ger pyllau glo a gweithfeydd dur rhwng yr 1950au a'r 1980au.
Roedd y gweithwyr o Gymru sy'n rhan o'r achos yn cael eu cyflogi gan gorfforaeth Glo Prydain mewn ffatrïoedd yng Nghoed-Elái, Cwm a Nantgarw yn ne Cymru.
Fe wnaeth llys ganfod bod George Nicholls, fu farw dros 20 mlynedd yn ôl yn 64 oed, wedi dioddef o froncitis cronig am nad oedd Glo Prydain wedi'i ddiogelu.
Cafodd gweddw Mr Nicholls iawndal o £15,853.

Bydd achos ar ran cyn-weithwyr golosg dur hefyd yn cael ei glywed yn y blynyddoedd nesaf
Un achos gafodd ei ddatrys y tu allan i'r llys oedd un Benjamin Winstone, oedd yn gweithio yn y ffatri yn Nantgarw am flynyddoedd.
Bu farw yn 1994 yn 76 oed o ganser yr ysgyfaint a chlefyd COPD.
Dywedodd ei fab-yng-nghyfraith David Harper, oedd hefyd wedi gweithio yn y ffatri yn yr 1970au, nad oedden nhw'n cael unrhyw fygydau i'w hamddiffyn.
"Roedd yr amodau yn llychlyd, myglyd, roedd fel gweithio mewn storm dywod," meddai.
"Roedd y rhan fwyaf o bobl yn pesychu a phoeri lawr 'na o hyd. Yn ystod blynyddoedd olaf [Mr Winstone] roedd e wir yn dioddef."
Achos arall
Mae 89 achos arall yn y cyd-achos eisoes wedi'u datrys, gyda theuluoedd yn cael iawndal o rwng £1,250 ac £80,000.
Dywedodd Roger Maddocks o gwmni Irwin Mitchell y dylai'r achosion hynny fod o gymorth wrth ddod â'r gweddill i ben, a chynnig datrysiad i'r "rheiny sydd wedi bod yn aros blynyddoedd am gyfiawnder".
Cafodd cais y prif ddiffynnydd, Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, i apelio ei wrthod gan y barnwr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran: "Rydym yn astudio'r dyfarniad ac yn ystyried y camau nesaf."
Mae cyd-achos arall hefyd yn cael ei gyflwyno ar ran cyn-weithwyr ffyrnau golosg Dur Prydain gan Hugh James ac Irwin Mitchell, gyda disgwyl i'r achos hwnnw ddechrau yn 2020.