Y ddwy ffrind wnaeth gerdded yr arfordir ar ôl gadael eu swyddi
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n meddwl ei fod e'n un o ryfeddodau mwyaf Cymru."
Dyma oedd ymateb un gerddwraig wedi iddi gwblhau llwybr arfordirol Cymru yn ddiweddar.
A hithau'n 67 oed, mae Eirlys Thomas - ynghyd â'i ffrind Lucy O'Donnell, 53 - wedi'u dewis ers hynny fel cenhadon natur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Deunaw mis yn ôl, penderfynodd Lucy ac Eirlys fynd i'r afael â Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn diswyddiad ac ymddeoliad.
Roedd y ddwy wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i'r Bwrdd Croeso - bellach yn Croeso Cymru - a gydag amser ar eu dwylo, aethon nhw ati i geisio gwella eu ffitrwydd, iechyd meddwl a phatrymau cysgu.
Torri tir newydd
Gan gredu mai 450 milltir oedd y daith yn wreiddiol - heb yn wybod ei fod yn 870 milltir mewn gwirionedd - fe ddechreuodd y ddwy arni ym mis Hydref 2016.
Mae'r daith wedi cymryd 100 diwrnod iddyn nhw, gyda'r rhan olaf yn cael ei gwblhau ym mis Mai eleni.
Nhw yw'r unig ddwy fenyw dros 50 oed sydd wedi cwblhau'r llwybr, gan felly ennill lle yn Oriel Anfarwolion Llwybr Arfordir Cymru.
"Mas o nunlle really fe benderfynon ni ein bod ni'n mynd i gerdded llwybr yr arfordir," meddai Eirlys, sy'n wreiddiol o ardal Preseli, ond yn byw yng Nghaerdydd ers tua 30 mlynedd.
"Roedd e'n brofiad anhygoel, anhygoel.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n un o ryfeddodau mwyaf Cymru. Dydw i heb fod yn unman tebyg unrhyw le yn y byd."
Mae Lucy ac Eirlys yn rhan o ymgyrch Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru - y mae'r seren rygbi Jamie Roberts yn wyneb iddi - i ddod o hyd i bobl sydd â straeon arbennig am natur Cymru.
"Wrth i ni gerdded roedden ni'n gweld arwyddion yr ymddiriedolaeth ym mhobman," meddai Eirlys.
"Doedden ni ddim yn sylweddoli bod rhan mor fawr ganddyn nhw i chwarae yn gofalu am yr arfordir.
"Pan ffeindion ni mas bod angen cenhadon arnyn nhw, dyma ni'n ceisio."
'Dewr' neu 'wallgof'?
Ond dydy cwblhau taith o'r fath ddim yn sialens i'r gwangalon, rhybuddia Eirlys.
"Roedd rhai aelodau o'r teulu yn meddwl bod ni'n ddewr, a rhai yn meddwl bod ni'n wallgo'!
"Blisters oedd y broblem fwya' - dyma Lucy yn disgyn mewn i'r bogs yn y canolbarth sawl gwaith hefyd!
"Y rhan o Landudoch i Drefdraeth yn Sir Benfro oedd yr anoddaf gen i.
"O'n i'n gweld e'n anodd pan nes i e yn fy ugeinie ond pan o'n i dros fy 60 roedd hi'n anoddach fyth!
"Ond roedd cael cwmni ffrindiau a theulu ar hyd y daith yn help mawr hefyd ac yn rhoi'r sbardun 'na i ni."
Felly pa gyngor sydd gan Eirlys i rai sy'n chwarae gyda'r syniad o fynd allan i gerdded?
"Mae 'na gymaint o lefydd i gerdded yng Nghymru - does dim rhaid i chi wneud dros 800 milltir!
"Roedd hi'n amser iawn yn ein bywyd ni i wneud e - ond i bobl eraill, cerwch allan a gweld beth sydd yna ar eich stepen drws chi!
"Gwnewch tipyn bach i ddechre, yna ewch yn bellach."
Hefyd o ddiddordeb: