Sychder yn arwain at fwy o achosion o flocio draeniau
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru'n annog eu cwsmeriaid i fod yn "arbennig o ofalus" am yr hyn maen nhw'n gwaredu lawr y tŷ bach wedi'r tywydd sych.
Mae'r cyfnodau hir o sychder wedi achosi problemau ychwanegol, wrth i lai o ddŵr lifo drwy'r system garthffosiaeth.
Mae Dŵr Cymru yn delio gyda 2,000 o alwadau'r mis i drin tagfeydd mewn pibellau carthffosiaeth, sy'n costio oddeutu £7m y flwyddyn i'w trin.
Dywedodd Steve Wilson, prif weithredwr gwasanaethau dŵr gwastraff: "Ni'n gofyn i'n cwsmeriaid i fod yn arbennig o ofalus ar hyn bryd, wrth i ni geisio ailgodi ar ein traed wedi'r cyfnod hir o dywydd sych."
Mae tua thri chwarter o dagfeydd mewn pibellau a systemau carthffosiaeth yn cael eu hachosi gan eitemau anaddas, fel arfer llieiniau llaith (wet wipes), yn cael eu gwaredu lawr y tŷ bach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018