Galw ar Lywodraeth Cymru i groesawu awtomeiddio

  • Cyhoeddwyd
AwtomeiddioFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai Cymru fod yn gyflenwr technoleg newydd yn hytrach na defnyddiwr yn unig, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn amlinellu sawl agwedd o awtomeiddio y maen nhw'n credu y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried.

Credai'r pwyllgor fod Cymru angen bod mewn sefyllfa i allu manteisio ar yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Clywodd y pwyllgor y gallai peidio croesawu'r technolegau newydd yma arwain at golli miloedd o swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried darganfyddiadau'r adroddiad".

Cadw Cymru 'ar flaen y gad'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George fod Cymru yn serennu ym meysydd iechyd ac yswiriant, a gall awtomeiddio helpu i'w cadw ar flaen y gad.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno technolegau newydd i gefnogi cwmnïau Cymreig a rhai tramor, yn ogystal â chryfhau sgiliau digidol mewn ysgolion ac addysg uwch.

Rhybuddia'r adroddiad hefyd, os nad yw Cymru'n paratoi yn sydyn ar gyfer y chwyldro newydd, y bydd diwydiannau ac unigolion eu gadael ar ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r rhagolygon o effaith awtomeiddio ar swyddi yn amrywio, gyda Banc Lloegr yn amcangyfrif y byddai 700,000 o swyddi yng Nghymru'n cael eu heffeithio - tua hanner y gweithlu - tra bod grŵp Future Advocacy yn dadlau bod y ffigwr yn debygol o fod yn agosach at 26-36%.

'Cefnogi cynigion mentrus ac uchelgeisiol'

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae eu cynllun gweithredu yn dangos eu hymroddiad i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer twf economaidd.

Ychwanegodd: "Byddwn yn cefnogi cynigion mentrus ac uchelgeisiol fydd yn helpu busnesau a'r economi yn ehangach yn y bedwaredd oes ddiwydiannol.

"Byddwn yn ystyried yn llawn argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb yn ffurfiol maes o law."

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd cyfarwyddwr Learning and Work Institute Cymru, David Hagendyk fod "datblygiadau technolegol yn golygu fod dysgu gydol oes yn bwysicach nac erioed".

"Mae'r pwyllgor yn gwbl iawn wrth alw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu eu cefnogaeth ar gyfer dysgu gydol oes, ac i helpu'r gweithwyr yno gaiff eu heffeithio waethaf gan awtomeiddio," meddai.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos mai oedolion gyda'r sgiliau a chymwysterau isaf fydd yn teimlo'r ergyd waethaf, felly oni bai ein bod ni'n ymateb nawr bydd anghydraddoldebau yn gwaethygu, a bydd Cymru'n cael ei gadael ar ôl."