Pwy yw'r band Cymraeg mwyaf poblogaidd o'ch sir chi?

  • Cyhoeddwyd
Rhan o fap yn dangos yr artistiaid mwyaf poblogaidd ar Spotify yn ôl eu sir gartrefFfynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o fap Dafydd Elfryn ac Yws Gwynedd - mae'r map llawn isod

Pwy yw'r artist Cymraeg mwyaf poblogaidd ar Spotify o'ch rhan chi o Gymru?

Mae'r mapiwr Dafydd Elfryn a'r cerddor Ywain Gwynedd wedi gweithio gyda'i gilydd i greu map, dolen allanol sy'n dangos pwy yw'r artist Cymraeg mwyaf poblogaidd ar wefan ffrydio cerddoriaeth Spotify yn ôl y sir maen nhw'n dod ohoni.

Aethon nhw ati wedi i rywun dynnu sylw Dafydd Elfryn at fap tebyg oedd wedi ei wneud yn Lloegr. Ond roedd angen help y canwr Yws Gwynedd i gael yr ystadegau o Spotify.

Mae'r map yn dangos Elin Fflur ar y brig yn Sir Fôn, Meic Stevens yn Sir Benfro, Mega yn Rhondda Cynon Taf - ac Yws Gwynedd ei hun yng Ngwynedd!

Mae Dafydd yn pwysleisio nad map gwyddonol gywir yw'r map ond dehongliad o ystadegau un system ffrydio.

"Mae'n dibynnu pa artistiaid sydd ar Spotify wrth gwrs ac hefyd roedd yn anodd penderfynu o lle roedd rhai bandiau'n dod os oedd gwahanol aelodau'n dod o wahanol lefydd," meddai.

"Roedd ffrwd rhai o'r bandiau llai adnabyddus yn fach ond nhw oedd yr uchaf o'u sir."

'Agoriad llygad'

Mae Yws Gwynedd hefyd yn egluro fod yr ystadegau yn rhai penodol.

"Mae sampl y map yn eitha sbesiffig - cyfanswm ffrydiau'r caneuon Cymraeg sy'n ymddangos yn 10 mwyaf poblogaidd pob artist ar Spotify," meddai.

"O ran hynny, mae'r data'n ddiddorol ond ddim yn wyddonol effeithiol."

Ond roedd yr hyn wnaeth ei ddarganfod wrth wneud yr ymchwil yn stori wahanol ac yn "agoriad llygad" meddai Ywain Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn

"'Un o'r pwyntiau ydy ein bod ni angen hybu cerddoriaeth Gymraeg yn ne ddwyrain Cymru," meddai.

"Y pwynt arall ydi fod llawer iawn o hanes gerddorol Cymru heb gyrraedd Spotify eto. Yn enwedig cerddoriaeth 'annibynol' yr 80au a'r 90au.

"Dim ond un platfform ffrydio ydi Spotify ond mae'n hawlio tua 75% o'r farchnad ffrydio felly'n hollbwysig."

Mae camau ar droed i geisio gwella hyn meddai Ywain, ond fe fydd yn broses gymhleth.

Dyma'r wybodaeth ar y map am y prif artistiaid Cymraeg ar Spotify yn ôl y siroedd mae'r artistiaid yn dod ohonynt:

  • Abertawe: Cerys Matthews

  • Blaenau Gwent: Yr Hwntws

  • Bro Morgannwg: Greta Issaac

  • Caerdydd: Gwenno

  • Caerffili: Aled Mills

  • Casnewydd: Byd Dydd Sul

  • Castell-nedd Port Talbot: Geraint Griffiths

  • Conwy: Y Cyrff

  • Ceredigion: Datblygu

  • Caerfyrddin: Gorky's Zygotig Mynci

  • Dinbych: Y Trwbs

  • Fflint: Caryl Parry Jones

  • Gwynedd: Yws Gwynedd

  • Merthyr Tudful: Kizzy Crawford

  • Penfro: Meic Stevens

  • Pen-y-bont ar Ogwr: Twinfield

  • Powys: Siân James

  • Rhondda Cynon Taf: Mega

  • Sir Fôn: Elin Fflur

  • Sir Fynwy: Calan

  • Torfaen: Pendevig

  • Wrecsam: Daniel Lloyd a Mr Pinc

Hefyd o ddiddordeb: