Tri'n pledio'n ddieuog i lofruddiaeth dyn yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
John Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Williams ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Ffordd Pentre-Chwyth, Abertawe ar 31 Mawrth

Mae tri pherson wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dyn 67 oed o Abertawe yn gynharach eleni.

Ymddangosodd Jonathan Donne, 41 oed, Gemma Owens, 31 oed, a Simon Cairns, 45 oed, yn Llys y Goron Abertawe wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth John 'Jack' Williams.

Cafodd corff Mr Williams ei ddarganfod yn ei gartref yn Ffordd Pentre-Chwyth y ddinas ar 31 Mawrth.

Bydd y tri yn cael eu cadw yn y ddalfa tan eu bod yn dychwelyd i'r llys ar 3 Hydref.