Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 0-0 Newcastle
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd golwr Caerdydd, Neil Etheridge i arbed cic o'r smotyn ym munud ola'r gêm yn erbyn Newcastle, i sicrhau pwynt cynta'r Adar Gleision yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.
Ar ôl colli yn erbyn Bournemouth yn eu gêm gyntaf, roedd 'na bwysau ar Gaerdydd i berfformio'n well, wrth groesawu Newcastle i'r brifddinas.
Yr Adar Gleision oedd gryfaf yn yr hanner cyntaf, er i Kenneth Zohore fethu manteisio ar sawl cyfle i daro cefn y rhwyd.
Cafodd gobeithion Caerdydd eu codi ymhellach yn yr ail hanner, wedi i chwaraewr canol cae Newcastle, Isaac Hayden, gael cerdyn coch 22 munud wedi iddo ddod oddi ar y fainc.
Os rhywbeth, gwella wnaeth chwarae Newcastle wedi hynny, a daeth yr ymwelwyr o fewn trwch blewyn i sicrhau buddugoliaeth ym munud ola'r chwarae wrth iddyn nhw ennill cic o'r smotyn wedi i Sean Morrison lawio'r bêl.
Ond fe aeth ergyd Kenedy yn syth i ddwylo'r golwr Neil Etheridge, cyn i'r chwiban olaf gael ei chwythu.
Ar ôl rheoli'r chwarae am gyfnodau yn y gêm, bydd Caerdydd yn teimlo rhyddhad iddyn nhw sicrhau eu pwynt cyntaf ar ddechrau tymor fydd yn llawn heriau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2018