Tynnu car o lyncdwll ym Mannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid tynnu car o dwll agorodd yn ddirybudd yn y ddaear ar dir Craig-y-Nos ym Mhowys.
Ymwelydd â'r atyniad welodd yr hyn ddigwyddodd, a rhoi gwybod i staff y ganolfan.
Y gred yw fod y llyncdwll wedi ei achosi gan nant sy'n llifo dan ddaear o'r mynyddoedd.
Roedd perchennog y car, Karen Davies yn gweithio yn yr atyniad, ac i fod i orffen ei shifft awr yn ddiweddarach.
Dywedodd ei mab, Luke, a gafodd ei alw i'w helpu, fod y twll yn mesur tua 18 i 20 troedfedd ar ei ddyfnaf.
"Mae'n rhaid ei fod wedi digwydd o fewn pump i ddeg munud", meddai Mr Davies, 30 oed, o Goelbren ym Mhowys.
"Roeddech chi'n gallu clywed y ddaear yn chwalu bob nawr ac yn y man."
Cafodd y car ei dynnu o'r twll gan ddefnyddio rhaff.
Mae drysau'r car wedi eu difrodi, ond dywedodd Mr Davies eu bod yn gobeithio eu trwsio, a'u bod yn ddiolchgar na chafodd neb ei anafu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016