Stephen Crabb: 'Rhaid osgoi Brexit heb gytundeb'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb

Dydy Brexit heb gytundeb ddim yn rhan o gynllun A na chynllun B Llywodraeth y DU, medd un AS Ceidwadol Cymreig.

Mae'r trafodaethau wedi ailddechrau ym Mrwsel rhwng swyddogion o'r DU a'r UE, wrth i'r dyfalu gynyddu y gallai Prydain adael heb gytundeb ym mis Mawrth 2019.

Ond dylid osgoi hynny ar bob cyfrif yn ôl AS Preseli Penfro, Stephen Crabb, sy'n aelod o bwyllgor dethol Brexit Tŷ'r Cyffredin.

Daw ei sylwadau wedi i'r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, honni y byddai'r DU yn ffynnu heb gytundeb.

'Pris gwleidyddol enfawr'

"Gadewch i ni wneud hyn yn glir, nid dyma'r canlyniad y bydden ni ei eisiau," meddai Mr Crabb ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Dyma'r canlyniad fyddai'n cael yr effaith mwyaf negyddol arnon ni yn y DU ac yn enwedig yng Nghymru.

"Dwi'n credu y byddai yna bris gwleidyddol enfawr i'r sefyllfa.

"Mewn gwirionedd, byddai'n cynrychioli Brexit sydd wedi methu. Byddai'n fethiant ar broses Brexit i ni ac i'r UE."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab yn teithio i Frwsel ddydd Mawrth ar gyfer trafodaeth gyda Michel Barnier

Ddydd Iau nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o nodiadau technegol sydd wedi eu cynllunio i baratoi'r DU ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Bydd y nodiadau hynny'n cynnwys cyngor i fusnesau, dinasyddion a chyrff cyhoeddus.

'Canolbwyntio ar gytundeb dda'

Pwysleisiodd Mr Crabb nad oedd Brexit heb gytundeb yn rhan o gynllun A na chynllun B y llywodraeth, gan ddweud bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud i osgoi'r sefyllfa honno.

"Rydym yn canolbwyntio ar gael dêl dda, ac yn fy marn i, mae'r cynllun a gytunwyd gan y Prif Weiniodg yn Chequers yn un sy'n anelu at greu llwybr synhwyrol drwy'r drafodaeth gymhleth ac anodd hon.

"Yn fy marn i, mae'n rhoi'r cyfle gorau i ni gwrdd â'r pwyntiau gafodd eu hamlinellu gan yr ymgyrch Gadael yn ystod y refferendwm, ond sydd hefyd yn rhoi'r cyfle gorau i ni amddiffyn ein sefyllfa fasnach rhyngwladol ac amddiffyn swyddi."

Galwodd ar ei gyd ASau Ceidwadol i gefnogi cynllun Chequers y Prif Weinidog Theresa May er mwyn gwthio'r cytundeb yn ei flaen.

Dywedodd Ysgrifennydd Brexit, Dominc Raab mai sicrhau cytundeb oedd y "canlyniad mwyaf tebygol", ond ychwanegodd bod paratoi ar gyfer sefyllfaoedd eraill yn beth cyfrifol i'w wneud.