Arddangosfa'n nodi cyfraniad y dyn roddodd Gymru ar y map
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa er cof am y dyn cyntaf i gyhoeddi map o Gymru yn ôl yn 1568 yn agor ddydd Llun.
Bydd Humphrey Llwyd, oedd yn hanu o Ddinbych, yn cael ei gofio mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 450 mlynedd ar ôl ei farwolaeth.
Llwyd oedd yn gyfrifol am y map cyntaf o Gymru - er i'r wlad ymddangos ar fapiau o Loegr neu Brydain yn y gorffennol, dyma oedd y cyntaf o Gymru yn unig.
Anfonodd y map at ei gyfaill Abraham Ortelius yn Yr Iseldiroedd er mwyn ei gynnwys yn yr atlas cyntaf erioed o'r byd, a gyhoeddwyd yn 1573.
Dywedodd Huw Thomas, curadur mapiau'r Llyfrgell Genedlaethol: "Dyma enedigaeth y genedl Gymreig, mewn ffordd.
"Er gwaethaf y diffygion daearyddol amlwg, dyma oedd darlun gweddill Ewrop o Gymru am y 140 mlynedd nesaf."
Ychwanegodd fod Humphrey Llwyd "yn un o wŷr cyfnod y Dadeni sydd wedi'i danbrisio fwyaf - yn benodol, ef yw tad cartograffeg Cymru".
Mae Humphrey Llwyd hefyd yn cael ei gydnabod am:
gyfieithu 'Brut y Tywysogion' i'r Saesneg;
helpu i lywio'r Mesur ar gyfer cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg drwy'r Senedd;
meithrin y syniad o Gymru fel cenedl;
poblogeiddio hanes y Tywysog Madog yn darganfod America;
bathu'r term 'Ymerodraeth Brydeinig'.
Roedd hefyd yn gyfrifol yn anuniongyrchol am un o gasgliadau craidd y Llyfrgell Brydeinig, y Casgliad Brenhinol, trwy ei waith yn casglu llyfrau ar gyfer ei noddwr, Iarll Arundel.
Mae'r arddangosfa ar agor tan 31 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018