Canfod fferm ganabis mewn adeilad aeth ar dân
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i fferm ganabis mewn fflat uwch ben siop aeth ar dân yng Nghaernarfon ddydd Llun.
Fe gafodd y gwasanaethu brys eu galw toc cyn 09:00 i'r digwyddiad ar Stryd Y Llyn.
Bu chwe chriw yn delio â'r fflamau, wnaeth gynnau yn siop ffonau symudol Get Connected ar y stryd.
Mae ymchwiliad gan y gwasanaeth tân yn dangos mai tarddiad y tân oedd y brif ffrwd trydan i mewn i'r adeilad.
Roedd yn rhaid i nifer o bobl adael adeiladau gerllaw am resymau diogelwch.
'Fferm canabis'
Dywedodd datganiad gan Heddlu'r Gogledd: "Yn dilyn ymchwiliad ar y cyd ddoe (dydd Llun) ar Stryd y Llyn, Caernarfon gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fe allwn gadarnhau ein bod yn ymwybodol o fferm ganabis mewn fflat preswyl yn y lleoliad.
"Mae'r ymchwiliad tân yn cadarnhau mai tarddiad y tân oedd y brif ffrwd trydan i mewn i'r adeilad."
Wedi'r digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Get Connected mai rheolwr y siop yng Nghaernarfon, Garry Roberts wnaeth alw'r gwasanaethau brys.
"Pan aeth i mewn y bore 'ma, roedd yn gallu arogli mwg ac yn gweld dŵr yn llifo o'r to," meddai'r llefarydd.
"Ry'n ni'n credu bod y tân wedi dechrau yn y fflat uwchben y siop, sy'n wag. Yn ffodus, does neb wedi'u hanafu ac mae pawb yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018