Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Leeds
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Abertawe i gipio pwynt yn erbyn Leeds United wedi perfformiad calonogol yn Stadiwm Liberty.
Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy gôl Ollie McBurnie, wrth i'r ergyd â blaen ei droed goroni gwrthymosodiad campus gan y tîm cartref.
Er mai prin oedd y cyfleoedd clir, Abertawe oedd yn llwyr reoli'r chwarae yn yr hanner cyntaf.
Ond, pum munud cyn hanner amser fe fanteisiodd Kemar Roofe ar amddiffyn llac i ddod a Leeds yn gyfartal ar yr egwyl.
Parhau i reoli gwnaeth y tîm cartref, ac fe roddodd peniad McBurnie Abertawe yn ôl ar y blaen wedi 51 munud.
Dangosodd Leeds pam eu bod nhw'n un o'r ffefrynnau i ennill dyrchafiad o'r Bencampwriaeth wrth iddynt bwyso am gôl yn hwyr yn yr ail hanner.
Pablo Hernández, cyn chwaraewr yr Elyrch, ymatebodd gyntaf i groesiad Patrick Bamford gan lwyddo i ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal gyda deg munud yn weddill.
Golygai'r canlyniad fod Leeds yn codi i frig y Bencampwriaeth, tra bod Abertawe hefyd yn codi i'r trydydd safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Awst 2018
- Cyhoeddwyd4 Awst 2018