Carwyn Jones: Brexit heb gytundeb yn 'drychinebus'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Nid yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn gan y byddai'n "fethiant trychinebus", yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Daw'r sylwadau yn dilyn cyhoeddi dogfennau sydd â chyngor i bobl a busnesau rhag ofn bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab fod y cyngor yn "ymarferol" a bod sicrhau cytundeb yn parhau'n "flaenoriaeth" i Lywodraeth y DU.

Mae'r dogfennau'n trafod sawl maes gan gynnwys cynnydd tebygol yng nghost taliadau â cherdyn, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer ffermwyr.

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

Er bod Mr Raab yn dweud fod "mwyafrif helaeth, tua 80% o'r cytundeb ymadael wedi ei gytuno", mae nifer o rybuddion diweddar yn trafod be all ddigwydd pe bai'r DU a'r UE yn methu â chyrraedd cytundeb erbyn diwedd mis Mawrth.

Dywedodd Mr Raab: "Rydw i'n hyderus bod cytundeb da o fewn cyrraedd. Dyma yw ein blaenoriaeth. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth flaenaf.

"Os yw'r UE yn ymateb gyda'r un uchelgais a phragmatiaeth â ni, byddwn yn taro cytundeb lle fydd y ddwy ochr yn elwa. Ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid ystyried y posibiliadau eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sicrhau cytundeb yn parhau i fod yn "flaenoriaeth flaenaf" i'r llywodraeth

Mae un o'r dogfennau yn cyfeirio at ddyfodol cymorthdaliadau ffermio'r UE, a dywedodd Mr Raab fod y Trysorlys am "sicrhau ceisiadau a wnaed drwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE hyd at 2020".

Ond wrth ymateb i gynlluniau'r llywodraeth, dywedodd Carwyn Jones y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi "niwed economaidd a chymdeithasol difrifol a hir dymor i bob rhan o'r DU".

"Mae'n hynod o rwystredig, achos petai'r llywodraeth wedi cyd-fynd â'r cynlluniau a gyflwynwyd gennym ni 18 mis yn ôl, gallen nhw fod wedi gwneud cynnydd aruthrol ar ein partneriaeth gyda'r UE," meddai.

"Roedd modd osgoi'r sefyllfa sy'n ein hwynebu heddiw - lle mae'r cyflogwyr mwyaf yn ystyried gadael y DU gan roi miloedd o swyddi mewn peryg, mae ein prifysgolion mewn peryg o golli ymchwil hanfodol a'n hysbytai yn rhybuddio am y posibilrwydd o ddiffyg staff."

'Hyderus'

Ychwanegodd Mr Jones: "Dydi Brexit heb gytundeb ddim yn opsiwn, a dyw blỳff y llywodraeth ddim yn twyllo neb.

"Mae'n amser i'r prif weinidog dod a'r wyneb pocer i ben, a gweithio gyda 27 gwlad yr UE i sicrhau cytundeb Brexit sy'n amddiffyn ein dinasyddion, ein gwasanaethau a'n heconomi."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns eu bod nhw'n parhau i deimlo'n "hyderus" y bydd y DU yn dod i gytundeb â'r UE

"Er hynny, mae yna ddyletswydd ar lywodraeth gyfrifol i baratoi ar gyfer pob digwyddiad posibl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru'n dweud y dylai'r bobl gael pleidlais arall os nad yw Llywodraeth y DU yn llwyddo i ddod i gytundeb

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Steffan Lewis fodd bynnag ei bod yn "gynyddol amlwg fod gadael yr UE heb gytundeb yn gamgymeriad o bwys hanesyddol fyddai'n achosi niwed mawr i fywoliaeth, lles a diogelwch pobl".

"Mae'n rhesymol i dybio bod y rhan fwyaf o bobl wnaeth bleidleisio dros adael yn disgwyl y byddai'r llywodraeth yn llwyddo i ddod i gytundeb gyda'r UE ac na fyddai'n arwain at ddymchwel diwydiannau a chamau argyfwng sydd ond fel arfer yn cael eu gweld yn ystod cyfnod o ryfel," meddai.

"Oherwydd hyn, cred Plaid Cymru yw nad oes mandad ar gyfer Brexit di-gytundeb trychinebus a dylai'r bobl gael pleidleisio a ddylai hyn gael digwydd, os nad oes cytundeb yn cael ei gytuno."