Tân 'dinistriol' ym marina Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Marina CaergybiFfynhonnell y llun, Patrick Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedair injan dân ac injan gyda phlatfform uchel yn bresennol ar hyn o bryd yng Nghaergybi

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymateb i dân ym Marina Caergybi.

Fe gafodd nhw eu galw i dân sy'n llosgi mewn gweithdy yn iard gychod Caergybi am 21:10 nos Iau.

Mae pedair injan dân ac injan gyda phlatfform uchel yn bresennol ar hyn o bryd. Mae uned rheoli digwyddiad hefyd wedi'i hanfon i'r marina.

Mae Gwylwyr y Glannau Caergybi wedi rhoi neges ar Twitter yn disgrifio'r tân fel un "dinistriol" ac yn annog pobl i "gadw'n ddiogel."