Pennaeth ysgol Gymraeg yn cyfaddef creu lluniau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Rhian DeSouzaFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian DeSouza wedi cyfaddef dau gyhuddiad o greu delwedd anweddus o blentyn

Mae pennaeth ysgol gynradd yn Abertawe wedi cyfaddef creu delwedd anweddus o blentyn.

Mae llythyr at rieni disgyblion Ysgol Gymraeg Gellionnen yn eu hysbysu fod Rhian DeSouza, 43 oed, wedi cael ei gwahardd yn syth ar ôl i'r ysgol glywed am ymchwiliad heddlu.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth BBC Cymru ei bod hi wedi cyfaddef dau gyhuddiad o greu delwedd anweddus o blentyn yn Llys Ynadon Llanelli ar 15 Awst.

Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 14 Medi.

Mae cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol yng Nghlydach wedi ysgrifennu at rieni yn datgan nad oes modd rhannu manylion y cyhuddiadau mae DeSouza yn eu hwynebu.

Ond dywedodd nad yw'r ymchwiliad yn ymwneud ag unrhyw ddisgybl presennol nac o'r gorffennol mewn unrhyw ysgol mae hi wedi dysgu ynddi drwy ei gyrfa.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r cyhuddiadau'n ymwneud â phlentyn presennol na chyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Gellionnen, Clydach

Ychwanegodd y byddai pennaeth dros dro mewn lle erbyn i'r tymor ysgol ailddechrau ym mis Medi.

Mewn datganiad ar y cyd mae'r ysgol a Chyngor Abertawe'n dweud: "Hoffem sicrhau rhieni nad yw'r achos llys yn ymwneud â disgybl presennol nac un o'r gorffennol mewn unrhyw ysgol mae'r unigolyn wedi dysgu ynddi.

"Yn syth ar ôl i ni ddod yn ymwybodol o ymchwiliad gan yr heddlu, fe gafodd hi ei gwahardd.

"Bydd pennaeth dros dro mewn lle, ac mae cefnogaeth i sicrhau nad oes effaith ar weithgareddau dydd i ddydd yr ysgol."