Ymchwilad yn cychwyn i dân difrifol ym marina Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Tân marina CaergybiFfynhonnell y llun, Patrick Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae tystion yn dweud iddyn nhw glywed sŵn ffrwydrad tua 21:00 nos Iau

Mae ymchwiliad yn cychwyn ddydd Gwener i achos tân difrifol sydd wedi dinistrio gweithdy peirianyddol ym marina Caergybi.

Dywedodd tystion eu bod wedi gweld fflamau hyd at 30 troedfedd o uchder yn dod o do'r adeilad, ac roedd yna adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o "ffrwydrad".

Fe gychwynnodd y tân o gwmpas 21:10 nos Iau ac fe gymrodd dros ddwy awr i ddiffoddwyr ddod â'r fflamau dan reolaeth.

Chafodd neb anaf ond mae'r gwres wedi achosi rhywfaint o niwed i adeiladau a cherbydau cyfagos.

Dydy'r digwyddiad ddim yn effeithio ar Borthladd Caergybi a theithiau fferi i Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Daniel M Jones/@messyjessieee
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân wedi dinistrio gweithy yn y marina

Mae tystion yn dweud eu bod wedi clywed sŵn ffrwydrad yn y marina ychydig wedi 21:00.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod pedair criw a phlatfform uchel wedi eu gyrru i'r safle.

'Fflamau 30 troedfedd'

Dywedodd Vicki Owens o RNLI Caergybi bod gwirfoddolwyr yng nghyfarfod blynyddol yr orsaf tua awr cyn i'r tân gychwyn yn y gweithdy drws nesaf.

"Cafodd y ffenestri eu chwalu gyda'r gwres," meddai.

"Mae rhywfaint o niwed oherwydd y mwg ac mae 'na olwg ymhob man ond dydi o ddim yn rhy ddrwg."

"Pan nes i gyrraedd yma roedd y fflamau o'r to o gwmpas 30 troedfedd o uchder ac roedd yn bosib i'w gweld o bell. Roedd o'n frawychus."

Ffynhonnell y llun, Twitter/@thebookiespal
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pedair injan dan ac injan gyda phlatfform uchel eu danfon i'r safle nos Iau

Ar y Post Cyntaf, dywedodd y Cynghorydd Ann Kennedy, sydd hefyd yn aelod o grŵp defnyddwyr Porthladd Caergybi, iddi glywed am y tân yn hwyr neithiwr.

Dywedodd ei fod yn "anodd coelio" bod hyn wedi digwydd mor agos i'r stormydd achosodd cymaint o ddifrod ym mis Mawrth.

Soniodd bod yr adeilad yn agos iawn at le mae pobl yn byw, yn cadw ceir, a'r clwb hwylio, ac yn ergyd arall i'r bobl sydd hefo busnesau yn y marina.

Ychwanegodd ei fod adeilad "enfawr" ac felly y byddai'r gwaith o drwsio yn sylweddol.

'Bang mawr'

Dywedodd Allan Johnson ar ei gyfrif Twitter ei fod wedi "clywed bang mawr" a gweld "mwg du yn byrlymu" o ardal y marina cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Hefyd ar Twitter fe rybuddiodd RNLI Caergybi i bawb aros yn ddiogel gan ddweud bod y golygfeydd yn rhai "dinistriol".

Cafodd trigolion yr ardal gyngor i gadw draw ac i gau eu drysau a ffenestri.