Lluniau Cymro yn 'rhoi neges fod posib helpu atal rhyfel'
- Cyhoeddwyd
Mae merch un o ffotograffwyr enwocaf Cymru yn dweud ei bod yn gobeithio bod gwaith ei thad yn ysbrydoli pobl ifanc i feddwl bod posib iddyn nhw wneud gwahaniaeth gyda'u lluniau eu hunain.
Mae lluniau grymus Philip Jones Griffiths, fu farw yn 2008 yn 72 oed, o Ryfel Fietnam yn cael eu hystyried yn drobwynt allweddol, wnaeth gyflymu'r broses o ddod â'r gwrthdaro i ben.
Mae Katherine Holden yn gobeithio y bydd gwaith Sefydliad Philip Jones Griffiths yn annog ffotograffwyr newyddiadurol ifanc i ddilyn ei esiampl trwy ddefnyddio eu camerâu i bwrpas.
Dywedodd mai nod y sefydliad elusennol y sefydlodd ei thad yn 2000 yw "ysbrydoli pobl ifanc, a phobl ifanc Cymru yn arbennig, y gallwch chi fynd allan a helpu atal rhyfel".
RHYBUDD: Gall rhai o'r delweddau isod beri loes
"Roedd yn arfer sôn am y wyrth o allu teithio'r byd a dweud yr hyn roeddech chi'n dymuno ei ddweud trwy rym y blwch bach hud o amgylch eich gwddf," meddai Ms Holden, sydd ar fwrdd y sefydliad ynghyd â'i chwaer, Fanny Ferrato.
"Rwy'n meddwl bod hynny'n rymus eithriadol, a dyna, mae'n debyg, yw ei neges oesol."
Dywedodd y byddai ei thad "wedi bod yn falch iawn" mai Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yw cartref parhaol ei archif.
"Roedd eisiau i'w waith aros yng Nghymru ac i ysbrydoli ffotograffwyr eraill a ffotograffwyr newydd," meddai.
Cafodd y Cymro Cymraeg o Ruddlan, Sir Ddinbych ei swydd gyntaf gyda phapur newydd Rhyl Leader yn y 1950au.
Wedi cyfnodau gyda'r Manchester Guardian a'r Observer yn Llundain, fe ymunodd at asiantaeth Magnum a symud i dde-ddwyrain Asia a chofnodi Rhyfel Fietnam rhwng 1966 a 1971.
Cafodd y lluniau eu cyhoeddi yn y llyfr Vietnam Inc - casgliad o ddelweddau, meddai ei ferch, "sy'n aros gyda chi yn hir ar ôl i chi stopio edrych arnyn nhw".
"Maen nhw'n serio'u hunain yn eich ymennydd," medai.
Dywedodd nad oedd ei thad yn osgoi trafod natur ei waith pan roedd hi a'i chwaer yn ifanc.
"Efallai nad oedd yn mynd i holl fanylion erchylltra rhyfeloedd, ond yn nhermau'r hyn oedd yn digwydd, rwy'n meddwl ei fod yn teimlo cyfrifoldeb i adael i'w ferched wybod beth oedd yn mynd ymlaen," meddai Ms Holden.
Dywedodd Ms Holden fod magwraeth ei thad yng Nghymru wedi dylanwadu ar ei olwg ar y byd, a'i fod wedi ymweld â Fietnam unwaith y flwyddyn am weddill ei oes am ei fod yn gallu uniaethu â phobl y wlad.
"Rwy'n meddwl ei fod yn gweld nifer o bethau tebyg rhwng y Cymry a phobl Fietnam - cymunedau llai, pentrefol yn cael eu gosod gan ryw fath o drefn ymerodraeth," meddai.
Ychwanegodd fod ei thad yn eithriadol o falch o'i Gymreictod, er ei fod "yn tynnu coes nad oedd yn chwarae rygbi nac yn gallu canu" ac wedi byw am gyfnod hir yn yr Unol Daleithiau.
"Er i mi dyfu i fyny yn Llundain, fe wnaeth yn siŵr fy mod i a fy chwaer yn mynd i Gymru pob haf i dreulio amser gyda'n cefndryd a chyfnitheroedd," meddai Ms Holden.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2015