Arweinwyr byd yn diolch i ddisgyblion Blaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion o Flaenau Ffestiniog wedi darganfod ffordd ddiddorol o ddysgu mwy am y byd - ac addysgu eraill am dreftadaeth arbennig eu hardal nhw ar yr un pryd.
Cafodd darnau o lechi gyda logo Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog eu hanfon i dros 200 o wledydd gan ddisgyblion Ysgol y Moelwyn.
Mae Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, y Tywysog Albert o Monaco, ac Arlywydd De Korea, Moon Jae-in, ymysg y rhai sydd wedi anfon llythyr yn ôl i'r ysgol.
Mae'r prosiect yn rhan o ymgyrch Blaenau Ffestiniog i allu rhoi statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar chwareli'r gogledd.
Yn siarad gyda'r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd Gareth Davies, athro Daearyddiaeth sy'n cydlynu'r prosiect: "Mae 'na lawer o gyffro ym Mlaenau Ffestiniog am y prosiect ac mae 'na edrych ymlaen am dderbyn negeseuon.
"Er i fi briodi ddydd Mercher diwethaf, roeddwn yn dal i aros yn eiddgar at lythyr neu e-bost gyda'r atebion nesaf."
Mae 15 arweinydd wedi ymateb hyd yma, gan gynnwys arlywydd Brasil.
"Mae rhai wedi anfon lluniau ohonynt gyda'r llechi, tra bod eraill wedi anfon llythyron personol i ddiolch," meddai Mr Davies.
Mae gwleidyddion y DU hefyd wedi derbyn llechen fel anrheg.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ateb gan ganmol mentergarwch y disgyblion.
Derbyniodd yr ysgol nodyn gan Downing Street yn cydnabod bod y Prif Weinidog Theresa May wedi derbyn ei hanrheg hithau.
Anfonodd Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, nodyn ynghyd â llun ohono gyda'r llechen.
Fe gostiodd oddeutu £1,500 i anfon y llechi i dros 200 o wledydd.
Gwrthododd y disgyblion anfon darnau i Syria, Somalia a Yemen oherwydd y brwydro sydd yno.
Bydd Mr Davies ei hun yn ehangu ei orwelion yntau ddydd Sul, pan fydd yn hedfan i Foscow i ddechrau gyrfa newydd fel athro yno.
"Mi fydda' i'n mynd â darn o lechen gyda fi - ni wedi anfon un i'r Arlywydd Putin. Dwi'n siŵr wneith o ein hateb ni!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018