Llwyddiant tîm Cymru yn 'hwb i bêl-droed merched'
- Cyhoeddwyd

Mae'r tad, Martin yn hyfforddi a'r fam a'r ferch, Efa a Nia yn chwarae i dîm pêl-droed merched Mountain Rangers
Dim ond ychydig wythnosau ar ôl i griw o wirfoddolwyr ffurfio tîm pêl-droed merched yng Ngwynedd, mae un o'r hyfforddwyr yn dweud fod llwyddiant tîm Cymru wedi bod yn hwb i bêl-droed merched ar lawr gwlad.
Ym mis Ebrill eleni, daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd er mwyn ailddechrau un o glybiau pêl-droed mwyaf adnabyddus Gwynedd, Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.
Y bwriad yn bennaf oedd sefydlu system academi blant, ac yn y pen draw ailsefydlu'r tîm dynion.
Ond yn groes i'r disgwyl, dim ond bedwar mis i lawr y ffordd ac mae'r ffocws yn bennaf wedi mynd ar sefydlu tîm merched.
Ac yn ôl un o swyddogion a hyfforddwyr y clwb, mae pêl-droed merched yng Nghymru wedi gwella yn gyffredinol a hynny oherwydd safon y tîm cenedlaethol.
Llwyddiant Cymru: Hwb i bêl-droed merched
Nid oes tîm wedi bodoli ym mhentref Rhosgadfan, Dyffryn Nantlle, ers i'r Mountain Rangers ddod i ben 20 mlynedd yn ôl.
Eglurodd Martin Jones, cadeirydd ac un o hyfforddwyr y clwb, fod y syniad wedi datblygu ar ôl gêm gyfeillgar rhwng rhai o ferched pentrefi Rhostryfan a Rhosgadfan.
"Doeddan ni ddim yn disgwyl cael tîm pêl-droed merched yma i ddechrau," meddai,
"'Dan ni wedi cael dipyn o interest ers i ni ddechrau'r clwb i fyny, mynd o bedair merch yn y training session cyntaf i sgwad o bron iawn i 26."

Beth sy'n unigryw am sefyllfa Mr Jones ydy fod ei deulu i gyd bellach yn ymwneud â'r clwb, gan fod ei wraig, Nia, a'i ferch, Efa, yn chwarae i'r tîm merched, a bod eu mab, Ceian, hefyd yn dyfarnu rhai o gemau'r merched.
Eglurodd Nia Jones ei bod hi'n un o'r aelodau sydd yn newydd i'r gamp.
"Dwi ddim wedi chwarae ffwtbol o'r blaen, newydd ddechrau blwyddyn yma, o ran ffitrwydd i ddweud y gwir," meddai.
"'Dan ni'n gwneud lot ohona fo 'efo'n gilydd a 'dan ni'n medru helpu'n gilydd allan, supportio'n gilydd."
Wrth sôn am lwyddiant tîm Jayne Ludlow, dywedodd Ms Jones: "Mae merched Cymru definitely wedi cael effaith bositif iawn i bêl-droed ar draws y wlad.
"Ac mae 'na lot fwy o genod a merched isho cychwyn chwarae pêl-droed a chymryd rhan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2018