Atgyfodi CPD Mountain Rangers, Rhosgadfan wedi 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae criw o wirfoddolwyr wedi penderfynu ailddechrau un o glybiau pêl-droed mwyaf adnabyddus Gwynedd.
Nid oes tîm wedi bodoli ym mhentref Rhosgadfan, Dyffryn Nantlle, ers i Glwb Pêl-droed Mountain Rangers ddod i ben 20 mlynedd yn ôl.
Mae pwyllgor newydd o ddynion lleol wedi creu cynllun tair blynedd sy'n cynnwys sefydlu academi newydd o dimau plant ac ieuenctid, gan arwain at sefydlu prif dîm dynion.
Yn ôl un sy'n rhan o'r cynllun, y bwriad yw creu cyfleoedd i bobl ifanc yn y pentref, a "dod â'r gymuned yma at ei gilydd".
Bywyd newydd
Ar un adeg, roedd Mountain Rangers yn glwb llwyddiannus ymysg cynghreiriau pêl-droed y gogledd.
Fe ddaeth y timau ieuenctid diwethaf yn y pentref i ben oherwydd diffyg gwirfoddolwyr a chymhlethdodau gyda gofynion cofrestru hyfforddwyr.
Yn ôl y pwyllgor mae'r seilwaith, gan gynnwys y cae chwarae, clwb cymdeithasol a maes parcio wedi parhau ar y safle ers y 1990au, ond mae angen gwaith i wella a diweddaru'r cyfleusterau.
Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd ailsefydlu'r clwb yn dod â bywyd newydd i'r pentref ac yn dod â'r gymuned at ei gilydd.
Mae'r pwyllgor wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn y clwb nos Wener, gyda'r gobaith o ennyn cefnogaeth gref gan y gymuned er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r cynllun lwyddo.
'Angen cefnogaeth y gymuned'
Mae Irfon Hughes, sy'n byw yn lleol, yn un fydd yn arwain y fenter newydd.
"Ma 'na dipyn o waith angen ei wneud i gael y cae yn barod, rhaid cofio does 'na ddim llawer o ddefnydd wedi bod arno ers 20 mlynedd, ond mae 'na griw ohona ni wedi dechrau'r paratoi yn barod.
"Mae 'na dipyn o waith o chwilio am gyllid, wrth gwrs mae 'na gostau ynghlwm â sefydlu prosiect fel hyn ond y peth pwysicaf ar hyn o bryd ydy sicrhau cefnogaeth y gymuned leol.
"Allan o bawb 'dwi wedi siarad gyda nhw o'r pentref, mae pawb yn cefnogi, ond be' 'da ni angen rŵan ydy i bobl y pentref ddechrau dod i gyfarfodydd a ballu."
Mae Mr Hughes yn cydnabod fod dipyn o waith angen ei wneud i sicrhau fod archwiliadau fel rhai CRB yn cael eu cwblhau, ond mae'r pwyllgor yn gobeithio sicrhau fod dau hyfforddwr ar gyfer pob oed, sy'n golygu wyth o hyfforddwyr ar y dechrau.
Dywedodd hefyd fod prinder o weithgareddau i blant a phobl ifanc yr ardal, ar ôl i nifer o glybiau ieuenctid gau oherwydd diffyg cyllid.
"Does 'na ddim byd yn mynd ymlaen yn y pentre' i blant a phobl ifanc, dim clybiau ieuenctid bellach, ac fe fydd y timau yn agored i fechgyn a genethod."
Mae Rhosgadfan yn adnabyddus fel man geni Kate Roberts, ac mae ei chartref, Cae'r Gors, wedi ei leoli tu ôl i un o goliau cae Mountain Rangers.
Cafodd nifer o fechgyn lleol gyfle i serennu yn y gyfres boblogaidd C'mon Midffild, pan oedd tîm Mountain Rangers yn wrthwynebwyr i dîm dychmygol Bryncoch United yn ystod un bennod.
Atgyfodi gêm elusennol
Mae'r pwyllgor hefyd wedi penderfynu atgyfodi hen gêm elusennol rhwng pentrefi Rhosgadfan a Rhostryfan er mwyn codi arian at y fenter.
Roedd yn arfer bod yn ddigwyddiad o bwys yn yr ardal pan oedd Mountain Rangers yn ei anterth.
Ychwanegodd Mr Hughes: "Fe fydd y gêm elusennol yn cael ei chynnal ar 2 Mehefin, ac fe fydd twrnamaint i dimau plant yr ardal yn cael ei gynnal ar y dydd canlynol hefyd.
"'Da ni mor benderfynol o lwyddo, ond fedrai ddim pwysleisio digon fod rhaid i ni gael cefnogaeth pobl y pentref."
Un sydd wedi byw yn y pentref hyd ei oes ydy David Carl Jones, ac er mawr siom iddo ni chafodd fawr o gyfle i gynrychioli ei bentref ar y cae pêl-droed.
"Mae o'n bechod na cheshi gyfla i chwarae'n iawn i un o dimau Mountain Rangers, mae 'na lot fawr o 'nheulu i wedi cynrychioli'r clwb.
"Dwi wedi bod 'efo diddordeb mawr mewn pêl-droed ers dwi'n ifanc iawn, ond mi oedd yn rhaid i fi a'n ffrindiau fynd i chwarae ym mhentrefi eraill yr ardal os oedda' ni isho gêm iawn.
"Dwi'n gobeithio bydd sefydlu'r timau newydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc y pentref fwynhau'r gêm, a bydd hefyd yn gyfle i ddod â'r gymuned yma at ei gilydd, felly gobeithio y gwneith pobl y pentref gefnogi'r clwb."
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y clwb nos Wener am 19:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2017
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2015