Atgyfodi clwb Mountain Rangers 'i uno cymuned'
Mae criw o wirfoddolwyr wedi penderfynu ailddechrau un o glybiau pêl-droed mwyaf adnabyddus Gwynedd.
Nid oes tîm wedi bodoli ym mhentref Rhosgadfan, Dyffryn Nantlle, ers i Glwb Pêl-droed Mountain Rangers ddod i ben 20 mlynedd yn ôl.
Mae pwyllgor lleol wedi creu cynllun tair blynedd sy'n cynnwys sefydlu academi newydd o dimau plant ac ieuenctid, fydd yn arwain at sefydlu prif dîm dynion.
Yn ôl un sy'n rhan o'r cynllun, y bwriad yw creu cyfleoedd i bobl ifanc yn y pentref, a "dod a'r gymuned yma at ei gilydd".