Salwch ymysg parafeddygon yn cyrraedd ei lefel uchaf
- Cyhoeddwyd
Mae lefelau salwch ymysg parafeddygon yn dangos faint o straen sydd ar y system yng Nghymru, yn ôl undeb.
Yn ôl y GMB mae staff wedi gorflino o ganlyniad i bwysau gwaith cynyddol, diffyg seibiant a gweithio tu hwnt i oriau arferol.
Mae ffigyrau'n dangos bod lefelau salwch ymysg gweithwyr ambiwlans - 8.8% - ar ei uchaf ers 2014, a'i fod ar ei uchaf ar gyfer tri mis cynta'r flwyddyn ers dechrau cadw cofnod yn 2010.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod gaeaf y llynedd yn un o'r rhai "gwaethaf" iddyn nhw wynebu, a bod lefelau salwch uchel yn "amlwg".
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, ffigwr absenoldeb drwy salwch y gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd oedd 5.7%.
Yn yr un cyfnod, mewn pum mlynedd allan o wyth, mae lefelau salwch ymysg parafeddygon wedi bod yn uwch na grwpiau eraill, megis nyrsio.
Yn ôl Nathan Holman, ysgrifennydd cangen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o'r GMB, mae sawl rheswm tu ôl i'r lefelau salwch uchel.
"Mae yna ddiffyg adnoddau, mae'r pwysau gwaith yn cynyddu, nid yw pobl yn cael amser i'w hunain ac mae pobl yn gorffen gwaith yn hwyr," meddai.
"Mae staff yn dechrau gorflino. Mae canran mawr o'n gwaith ni yn emosiynol iawn - marwolaethau, genedigaethau - a does dim cyfle i gael seibiant a chymryd cam yn ôl.
"Yn y pendraw mae'r system yn mynd i dorri, ac rydyn ni'n agosáu at hynny. Mae'r lefelau salwch yn dangos pa mor agos yw hynny."
Disgwyl 'peiriannau'
Ychwanegodd bod yn yno ddisgwyl i staff fod yn "beiriannau".
Derbyniodd Mr Holman fod yr awdurdodau yn cymryd camau i leihau lefelau salwch, ond dywedodd nad ydyn nhw'n delio â gwraidd y broblem.
Dywedodd Hywel Daniel, Is-Gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Er ein bod ni'n meddwl am ein staff fel unigolion goruwchddynol, mae'n rhaid derbyn eu bod nhw weithiau yn sâl a methu gweithio.
"Roedd hyn yn arbennig o amlwg dros y gaeaf, lle roedd teimlad ar hyd y gwasanaeth iechyd mai dyma un o'r gaeafau gwaethaf i ni ei gael.
"Arweiniodd hyn at dwf yn y graddau absenoldeb drwy salwch, sydd bellach wedi dychwelyd i'r lefel gyffredin."
Yn ôl Mr Daniel mae sawl rheswm am y lefelau absenoldeb, gan gynnwys anafiadau corfforol, teimlo dan straen a gor-bryder - ond ychwanegodd bod buddsoddiad arwyddocaol yn cael ei wneud er mwyn cefnogi gwasanaethau.
"Rydyn ni'n cydnabod fod mwy angen ei wneud, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafar i wneud gwelliannau pellach," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018