£10m at ambiwlansys a cherbydau brys newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru ar fin cael cerbydau brys newydd ac uwchraddio'r hen ambiwlansys sy'n gweithredu ar hyn o bryd.
Daw'r cyhoeddiad yn sgil buddsoddiad o £10.2m gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Bydd 100 o gerbydau newydd yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys 33 beic modur a 25 ambiwlans.
Mae'n rhan o'r cynlluniau a ddechreuodd yn 2011 i uwchraddio cerbydau'r Gwasanaeth Ambiwlans.
'Ambiwlansys modern'
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys 33 o gerbydau cludiant di-frys a naw cerbyd brys i ymateb i ddigwyddiadau difrifol.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn derbyn 1,314 o alwadau brys bob dydd ar gyfartaledd - ffigwr sydd wedi dyblu yn 25 mlynedd diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £55m er mwyn prynu cerbydau ambiwlans newydd dros y saith mlynedd diwethaf.
Dywedodd Mr Gething: "Bydd y buddsoddiad yma'n galluogi'r Gwasanaeth Ambiwlans i uwchraddio eu cerbydau, er mwyn galluogi bod y cerbydau mwyaf addas ar gael i sicrhau'r gofal gorau posib i bobl Cymru."
Mae Cyfarwyddwr Gweithredoedd y Gwasanaeth Ambiwlans, Richard Lee wedi dweud fod ambiwlansys modern sydd â'r offer diweddaraf yn hanfodol.
"Mae ein hambiwlansys a'n cerbydau ymateb yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf modern a gyda'r offer gorau yn y DU, a bydd y buddsoddiad yma'n sicrhau ein bod yn parhau i gael offer newydd yn lle'r rhai sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes gweithio," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2015
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2013