Protest yng Nghaerdydd yn erbyn cynlluniau mwd Hinkley

  • Cyhoeddwyd
hinkley protest

Daeth cannoedd o bobl i flaen y Senedd brynhawn Llun i brotestio yn erbyn y cynlluniau i roi mwd o safle gorsaf niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd.

Mae'r ymgyrchwyr yn poeni y gallai'r mwd gynnwys gwastraff niwclear ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu ei fod yn ddiogel.

Bwriad cwmni EDF yw symud 300,000 tunnell o fwd o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B.

Fis Rhagfyr, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Chris Fayers, pennaeth amgylchedd EDF fod honiadau fod y mwd yn "wenwynig" yn anghywir ac mai nod yr honiadau oedd codi braw.

Mae ymgyrchwyr wedi galw am gynnal rhagor o brofion ar y mwd.

'Ddim yn ymbelydrol'

Mae'n rhaid symud y mwd fel rhan o waith cychwynnol codi atomfa newydd Hinkley Point C - cynllun gwerth £19.6bn.

Mae asiantaeth Llywodraeth y DU, CEFAS, wedi cynnal profion ar y mwd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu'r canlyniadau wedi hynny.

Daethpwyd i'r casgliad bod lefelau ymbelydredd artiffisial mor isel y bydden nhw "ddim yn ymbelydrol" yn gyfreithiol.

Mae dros 7,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ohirio trwydded forwrol gafodd ei roi i'r cwmni gan Lywodraeth Cymru yn 2013.

Mae gan ddeiseb arall gan Greenpeace i gwmni EDF 87,000 o lofnodion, ac mae clymblaid o 10 o elusennau cadwraeth môr wedi anfon llythyr agored at yr Ysgrifennydd Ynni, Lesley Griffiths.

Ddydd Llun fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Deisebau yn dangos bod casgliadau Cyfoeth Naturol Cymru wedi'i selio ar gyngor arbenigol.

"Fe wnaeth yr adroddiad hefyd gadarnhau fod y deunydd yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr ac nad oes yna unrhyw beryg ymbelydrol i iechyd na'r amgylchedd."