Biliau dŵr i dad-cu o Sir Benfro a fu farw 27 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
John Rees LewisFfynhonnell y llun, Mark Cole
Disgrifiad o’r llun,

Portread o John Rees Lewis, a symudodd o Noyadd, Eglwyswrw yn 1982

Mae rheolwr fferm ceffylau gwedd yn Sir Benfro wedi gofyn am atebion gan Dŵr Cymru ar ôl derbyn cyfres o filiau yn enw ei dad-cu - sydd wedi marw ers 27 o flynyddoedd.

Roedd John Rees Lewis yn arfer byw yn Noyadd, Eglwyswrw, ond fe werthwyd y tŷ yn 1982.

Fe fuodd yn byw wedyn yn Carnhuan, lleoliad busnes ei ŵyr Mark Cole a'i deulu, cyn ei farwolaeth yn 1991.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn ymddiheuro a bod y cyfrif, a gafodd ei agor ar gam, bellach wedi ei gau.

Cyflenwad preifat

Yn ôl Mr Cole, fe ddechreuodd dderbyn llythyrau y llynedd gan Dŵr Cymru yn gofyn am arian ar gyfer gwasanaethau dŵr i Noyadd, Eglwyswrw.

Dyw'r tŷ erioed wedi derbyn cyflenwad gan Dŵr Cymru, gan ei fod yn cael cyflenwad preifat o fryniau'r Preselau.

Ar ôl dweud wrth Dŵr Cymru am y camgymeriad, fe ddaeth rhagor o filiau eleni yn enw ei dad-cu. John Rees Lewis.

Dywedodd Mr Cole: "Does dim Dŵr Cymru erioed wedi mynd at y tŷ.

"Dŵr ffynnon o'r Preselau sydd yn mynd yna. Doedd e ddim yn berchen ar y tŷ ers 1982 a mae e wedi marw ers 1991."

Yn ôl Mr Cole, fe ymddiheurodd Dŵr Cymru am y camgymeriad ac addo cau'r cyfrif.

'Cau'r cyfrif'

Eleni, fe barhaodd y biliau i gyrraedd fferm Carnhuan.

Ychwanegodd Mr Cole: "Beth sydd yn pryderu fi yw nid yr arian wrth gwrs gan taw dim ond £18 yw e.

"Ni wedi derbyn llythyr erbyn hyn yn dweud eu bod nhw wedi cael gwared ar y bil a sdim arnon ni geiniog.

"Dyn nhw ddim wedi dweud ei bod nhw wedi cau'r cyfrif. Os mae hyn wedi digwydd i ni, i bwy arall mae hyn wedi digwydd?"

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Yn dilyn ymholiad diweddar cysylltiedig â'r tŷ gallwn gadarnhau ein bod wedi cau'r cyfrif a gafodd ei agor ar gam.

"Ry'n yn ymddiheuro yn fawr am y gofid a achoswyd ac fe fyddwn yn cysylltu â'r teulu yn uniongyrchol er mwyn ymddiheuro."