Difrod mynwent Coetmor yn 'codi gwrychyn' pobl Bethesda
- Cyhoeddwyd
Dylai'r sawl sydd wedi difrodi mynwent yng Ngwynedd gael eu dwyn i gyfrif, yn ôl rhai o drigolion y dref sydd â chyn-deidiau wedi'u claddu yno.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i fynwent Coetmor ym Methesda toc cyn 19:00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o ddifrod troseddol.
Pan welodd Ficer Plwyf Ogwen, Y Tad John Matthews y difrod roedd yn "teimlo dros y gymuned".
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.
'Llanast'
Yn ôl y Tad Matthews roedd ffenestr yr eglwys wedi'i thorri a dros 15-20 o'r beddau wedi eu difrodi neu wedi eu heffeithio.
"Ar ôl i mi gyrraedd roedd y lle'n llanast. Roedd biniau wedi'u gwagio ar draws y safle a darnau o feddau wedi'u rhwygo."
Un sydd wedi'i heffeithio gan y difrod yw Amanda Roberts sy'n byw yn Gerlan.
Ar ôl clywed am y difrod aeth i lawr i'r fynwent gan fod ei nain a'i hen nain wedi'u claddu yno.
"Ar ôl cyrraedd roeddwn wedi dychryn. Roedd 'na feibl oedd ar fedd fy nain wedi'i rwygo allan a rhywun wedi neidio a thynnu potiau oddi ar fedd arall gerllaw.
"Beryg bydd rhaid i ni dalu i drwsio bedd fy nain rwan. Mae'n codi gwrychyn pobl fod rhywun yn gallu achosi ffasiwn ddifrod.
"Mae'r bobl 'ma yn haeddu cael heddwch a dwi'n gobeithio g'neith yr heddlu ddal pwy bynnag sy'n gyfrifol."
'Mynwent enwog'
Mae Mynwent Coetmor, yn ôl y Tad Matthews, yn un o'r "mynwentydd enwocaf yn yr ardal".
Fe gafodd yr eglwys ei hadeiladu yn 1911 gan deulu'r Robertsons er cof am eu mab.
"Mae'r teulu'n enwog ar draws y byd am gynhyrchu marmaled. Bu farw mab y perchennog ar y mynydd gerllaw yn 1911 ac mae wedi'i gladdu mewn bedd sy'n wynebu'r mynydd.
"Felly mae pawb un ai yn adnabod y lle fel mynwent Coetmor neu fel Mynwent Robertson," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Fe gafodd yr heddlu alwad gan aelod o'r cyhoedd toc cyn 19:00 ar 27 Awst i adroddiad o ddifrod troseddol ym Mynwent Coetmor, Bethesda.
"Roedd un o ffenestri'r eglwys wedi'i thorri a darnau metal wedi'u taflu i'r ffordd, gyda phlanhigion hefyd wedi cael eu symud neu eu taflu.
"Mae ymchwiliadau yn parhau a does neb wedi cael ei arestio ar hyn o bryd," meddai.
Yn ogystal â'r heddlu mae'r Tad Matthews yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101.