'Gôl hyll anhygoel hardd': Teyrnged prifardd i Hal

  • Cyhoeddwyd
robson-kanu
Disgrifiad o’r llun,

Hal Robson-Kanu yn troi a thwyllo tri amddiffynnwr Gwlad Belg cyn rhwydo gôl dyngedfennol yn rownd y chwarteri, Euro 2016

Daeth newyddion heddiw bod un o arwyr Cymru yn ystod Euro 2016 yn ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol.

'Hal Robson-Kanu' hefyd oedd ffugenw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 sef Gruffudd Eifion Owen.

Wedi'r cyhoeddiad bod Robson-Kanu yn ymddeol, fe ofynnodd Cymru Fyw i Gruffudd am ei ymateb.

Mae'r prifardd wedi llunio englyn newydd yn canu clodydd yr ymosodwr.

"Wrth reswm, dwi'n drist iawn o glywed fod Hal Robson-Kanu wedi penderfynu ymddeol o'r gêm ryngwladol, ond mae ei le yn oriel yr anfarwolion wedi ei sicrhau am byth, diolch yn bennaf i'r gôl ysgubol (ac annhebygol honno) yn rownd wyth olaf yr Ewros ddwy flynedd yn ôl.

"Y gôl honno, a'r ymateb iddi oedd rhan o'r ysgogiad i mi gystadlu ar gyfer y gadair eleni, ac hefyd y rheswm i mi ddewis 'Hal Robson-Kanu' fel ffug-enw.

gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gruffudd Owen y Gadair eleni gyda awdl dan y teitl 'Porth'

"Be dwi'n garu am y gôl honno ydi y byddai chwaraewr call wedi pasio'r bel yn ôl i lawr y cae, ond mi oedd gan HRK yr hyder gwirion i wyro a thwyllo'r amddiffynwyr a mynd amdani ei hun.

"Dwi 'di gwylio'r gôl ar YouTube ddegau o weithiau a dwi dal fyth yn siwr pa ffordd mae o am droi!

"Mae'n gôl eitha' hyll a thrwsgl ar un wedd ac eto'n ogoneddus o hardd! Felly diolch o galon Hal Robson Kanu am yr atgofion ac am yr ysbrydoliaeth. Mae 'na groeso iddo acw unrhyw bryd i eistedd yn y gadair!"

Diolch HRK

Ar echel y bêl safodd bardd -gwirion

a gwyrodd yn anhardd…

…a'i gôl hyll anhygoel hardd

brofodd ei fod o'n brifardd.