Galw am ariannu ffordd ddeuol i adfywio gorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr A40 yn SanclêrFfynhonnell y llun, Google

Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro yn dweud bod hi'n "warthus" nad yw'r A40 yng ngorllewin Cymru yn ffordd ddeuol lawn.

Yn ôl John Davies, dylai Llywodraeth Cymru ariannu ffordd ddeuol lawn rhwng Sanclêr ac Abergwaun.

Mae'n dadlau fod porthladd Abergwaun dan anfantais o gymharu â phorthladd Doc Penfro oherwydd is-adeiledd y ffyrdd.

"Pam chi'n edrych yn benodol ar Abergwaun, pan mae pobl eisiau mynd â'u cynnyrch i Iwerddon, maen nhw'n penderfynu yn Sanclêr pa heol - ydyn nhw'n mynd i'r dde neu'r chwith.

"Chwith i Ddoc Penfro ar hyd yr A477 neu i'r dde ar hyd yr A40, sydd heb weld prin unrhyw fuddsoddiad mewn hanner can mlynedd."

"Byddai ffordd ddeuol i Hwlffordd yn gam mawr ymlaen. O fan'na 'mlaen mae angen gwelliannau mawr i Abergwaun."

Yn 2015, fe ddaeth astudiaeth i'r casgliad y byddai ffordd ddeuol lawn yn cynnig gwelliannau, ond doedd yna ddim cyfiawnhad dros wario mwy na £400m er mwyn arbed 11 munud wrth deithio ar hyd y ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies wedi dweud y gallai datblygu'r ffordd "drawsnewid economi" yr ardal

Ar y Post Cyntaf, dywedodd AC Ceidwadol Preseli Penfro, Paul Davies ei fod yn "cytuno'n llwyr" bod angen datblygu'r ffordd.

Dywedodd ei fod yn "hynod o bwysig bod y ffordd yn cael ei throi yn ffordd ddeuol oherwydd bod y porthladd [yn Abergwaun] yn dibynnu ar hynny".

Ychwanegodd: "Bydde fe'n trawsnewid yr economi, os edrychwch chi ar lefydd eraill yng Nghymru lle mae ffyrdd wedi eu troi yn ddeuol, mae diwydiannau a busnesau wedi sefydlu o amgylch y ffyrdd hynny."

Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio gwelliannau i'r A40 yn Llanddewi Felffre, ble mae yna fwriad i gael ffordd osgoi o gwmpas y pentref.

Mewn ymateb i raglen Post Cyntaf, dywedodd y Farwnes Eluned Morgan - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac AC rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru - y byddai ffordd ddeuol lawn yn gymorth i borthladd Abergwaun.

Ond fe ychwanegodd bod llai o arian cyhoeddus i wario ar gynlluniau i wella ffyrdd oherwydd y cynni ariannol.