Siom wrth i siop Gymraeg Pontypridd gau wedi 23 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Maldwyn Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maldwyn Owen yn edrych ymlaen at gyfnod newydd i'r busnes wedi i'r siop gau

Mae'n ddiwedd cyfnod ym Mhontypridd wrth i siop Gymraeg y dre agor ei drysau am y tro olaf.

Mae Siop y Bont wedi bod ym marchnad y dref ers agor yn wreiddiol yn 1995 ond mae'r perchnogion, Ann a Maldwyn Owen, wedi penderfynu ei chau.

Mae'r rhesymau, medd Maldwyn Owen, yn cynnwys "oedran - eisio ymddeol" a "siom bod dim digon o bobol yn dod i mewn i'r farchnad".

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at bennod newydd yn hanes y busnes oherwydd "mae'n gallu bod mor dawel yma - weithiau chewch chi dim ond hanner dwsin o gwsmeriaid bob dydd".

Mae'r newidiadau diweddar yn arferion siopa cwsmeriaid, meddai, yn effeithio ar bob math o fusnesau ar y Stryd Fawr.

Anodd cystadlu

"Ma' archfarchnadoedd wedi codi lan, maen nhw'n gallu mynd fan'na a parcio am ddim - dod i fewn i'r dre', mae'n rhaid talu.

"A wedyn maen nhw wedi dod â pedestrianisation i fewn i ganol Pontypridd, sy'n golygu bod neb yn gallu dod i mewn canol y dydd i jest pigio fewn i'r siop a mynd.

"Hefyd pobol yn prynu ar y we a chi'm yn gallu cystadlu efo rhai o'r cwmnïau mawr fan'na."

Un o gwsmeriaid y siop yw Wil Morus Jones - cyn bennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ym Mhontypridd.

"Dwi'n teimlo'n drist iawn bod lle fel hyn yn diflannu," meddai. "Mae 'di bod yn rhan bwysig iawn, iawn o 'mywyd i ers blynyddoedd."

"Oedd y ddarpariaeth sydd yna mor ddefnyddiol," meddai, gan gyfeirio at rôl y siop fel cyflenwr ar gyfer ysgolion Rhondda Cynon Taf. "Mi fydd hi'n chwith mawr i mi heb Siop y Bont yma ym Mhontypridd."

'Bwlch enfawr'

Dywedodd cwsmer arall, Jayne Rees: "Ma' fe'n rwla lle allwch chi alw heibio a ca'l sgwrs yn Gymraeg, a 'neud yn siŵr bod pobol ym Mhontypridd yn clywed pobol yn siarad Cymraeg.

"Ma' wastad rywun yna ry'ch chi'n nabod. 'Dwi wedi cefnogi'r siop ers dros 20 mlynedd a ma'n drist iawn meddwl bod y siop yn dod i ben penwythnos yma.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y siop yn Hydref 1995

"Mae fe'n mynd i ada'l bwlch enfawr yn y farchnad ac yn y dre' ei hunan, a gyda cyn lleied o'r siope bach unigryw yn nhre' Pontypridd erbyn hyn, mae'n anodd credu be' sy'n mynd i ddod i gymryd lle Siop y Bont.

Ychwanegodd; "Y gobaith nawr yw y bydd rhywun yn camu i'r adwy... Mae'n drueni bo' rhaid i ni fynd yr holl ffor' i lawr i Gaerdydd i brynu llyfra' a cryno-ddisgia' ac ati."

Dywedodd Maldwyn Owen bod y busnes yn parhau er na fydd siop mwyach, ac y bydd yn dal i gyflenwi ysgolion a llyfrgelloedd lleol yn ogystal â Phrifysgol De Morgannwg, sydd â champws ym Mhontypridd ac unrhyw rieni sydd "eisio llyfre arbennig".