Nôl i'r ysgol: Sêr sydd ddim 'di newid dim

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl gwyliau haf hir a chynnes (am unwaith), mae hi'n amser mynd yn ôl i'r ysgol unwaith eto.

Amser hapusaf eich bywyd? Efallai. Efallai ddim. Ond cofiwch blant, mae yna ddigon o amser i chi wneud eich marc ar y byd (neu Gymru, o leia'), fel y sêr isod...

Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tybed oedd Dylan Jones yn gwneud jôcs sâl yn lle gweithio'n galed?

Dylan Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n siŵr mai gwersi ymarfer corff oedd hoff wersi Dylan Ebenezer

Amber DaviesFfynhonnell y llun, BBC / ITV
Disgrifiad o’r llun,

Ylwch ciwt oedd Amber Davies pan oedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Twm o'r Nant!

Aled HughesFfynhonnell y llun, Aled Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Ydy bywyd wedi bod yn anodd, Aled Hughes? Mae'r cyrls melyn wedi diflannu yn llwyr...

Guto Harri
Disgrifiad o’r llun,

Cyfathrebwr brwd yw Guto Harri... mae'n debyg fod gyrfa fel cogydd ddim wedi digwydd

Eleri Sion yn barod i greu rhagor o lanast yn y gegin?
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwallt ychydig yn oleuach, ond mae'n siŵr fod Eleri Siôn wastad wedi bod yn un siaradus... druan o'i hathrawon!

Daniel Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel Evans yn Ysgol Gyfun Rhydfelen pan ennillodd wobr Richard Burton yn 1990

Ydi'r gynghanedd wedi dod yn gaws i Hywel ers ei ddyddiau yn y 'British'?Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Beth ddigwyddodd i dy wên di, Hywel Gwynfryn?!

Llyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llŷr Griffiths Davies yn edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn Ysgol Dyffryn Teifi!

Hefyd o ddiddordeb