Dynes o Gaerdydd yn y llys ar gyhuddiadau terfysgaeth

  • Cyhoeddwyd
Swyddog heddlu ger y tŷ yn Nhrelái
Disgrifiad o’r llun,

Swyddog heddlu ger y tŷ yn Nhrelái wedi'r cyrch ddydd Mercher

Mae dynes 51 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o droseddau ffrwydron a bod â dogfennau terfysgol yn ei meddiant.

Fe wnaeth Natalie Parsons o Gaerdydd, sydd yn ddi-waith ac yn fam i chwech, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.

Mae'n wynebu dau gyhuddiad o fod â sylwedd ffrwydrol yn ei meddiant dan amgylchiadau amheus.

Mae hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o gasglu gwybodaeth allai fod yn ddefnyddiol wrth baratoi gweithred derfysgol.

Wnaeth Ms Parsons ddim cyflwyno ple wrth ymddangos gerbron ynadon, dim ond cadarnhau ei manylion personol.

Roedd ei phartner Edward Harris, 27, eisoes wedi ymddangos gerbron yr un llys ddydd Sadwrn ar bedwar cyhuddiad ffrwydron a phedwar cyhuddiad o fod â dogfennau terfysgol yn ei feddiant.

Cafodd y ddau eu harestio'r wythnos diwethaf yn dilyn cyrch gan yr heddlu ar eu cartref yn Nhrelái, Caerdydd.

Fe wnaeth y Prif Ynad Emma Arbuthnot wrthod mechnïaeth i Ms Parsons, fydd yn cael ei chadw yn y ddalfa nes iddi ymddangos yn yr Old Bailey ar 27 Medi.