Dedfrydu cefnogwr Abertawe am wneud salíwt Natsïaidd

  • Cyhoeddwyd
Leighton JohnsonFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae dyn o Abertawe wedi cael gorchymyn cymunedol 12 mis ar ôl gwneud salíwt Natsïaidd yn ystod gêm bêl-droed y llynedd.

Yn ogystal, bydd yn rhaid i Leighton Johnson, 43 oed, wneud 150 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl, talu dirwy o £1,085 ac mae wedi cael gwaharddiad tair blynedd o Stadiwm Liberty ar ddiwrnod gêm.

Digwyddodd y drosedd yn ôl ym mis Ebrill 2017 yn ystod gêm rhwng Abertawe a Tottenham Hotspur, pan lwyddodd yr ymwelwyr - sydd â chysylltiadau agos â'r gymuned Iddewig - i ennill o 3-1.

Cafwyd Johnson yn euog o achosi ofn neu drallod ar sail hil ym mis Gorffennaf, er iddo wadu'r cyhuddiad.

Ymddwyn 'fel clown'

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod un o gyfarwyddwyr Spurs, Jon Reuben, wedi cymryd fideo o'u cefnogwyr yn dathlu'r fuddugoliaeth - ac wedi dal Johnson yn gwneud y salíwt tuag atynt.

Cafodd y deunydd fideo ei yrru i Glwb Pêl-droed Abertawe, cyn iddyn nhw adnabod Johnson a chysylltu gyda Heddlu De Cymru.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas QC: "Nid oes arwydd fwy erchyll na thramgwyddus all rhywun ei wneud tuag at grŵp crefyddol."

Ychwanegodd fod Johnson wedi ymddwyn fel "clown" yn ystod yr achos.